Gwahardd dau aelod staff o Ysgol Pendalar, Caernarfon

Ysgol Pendalar Image copyright Google

Mae dau aelod o staff wedi eu gwahardd o ysgol i ddisgyblion sydd ag anghenion arbennig yng Ngwynedd.

Mae BBC Cymru ar ddeall mai Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon ydi'r ysgol dan sylw ac mae "ymchwiliadau mewnol" yn cael eu cynnal.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Gallwn gadarnhau fod dau aelod o staff ysgol wedi eu hatal o'r gwaith tra bod ymchwiliadau mewnol yn cael eu cynnal.

"Ni fyddai'n briodol i'r Cyngor wneud unrhyw sylw pellach tra bod yr ymchwiliad yn parhau."

Mae Ysgol Pendalar yn ysgol i ddisgyblion sydd rhwng 3 - 19 sydd ag anghenion arbennig.