Cofio Cymry amlwg a gollwyd yn 2015

Colli Cymry

Fe gollwyd nifer o Gymry amlwg yn ystod 2015, a bu sawl un oedd yn eu hadnabod yn rhoi teyrngedau iddyn nhw ar BBC Cymru Fyw.

Ym mis Chwefror, bu farw'r hanesydd a'r darlledwr Dr John Davies yn 76 oed.

Roedd yn un o haneswyr amlyca'r wlad ac mae ei gyfrol Hanes Cymru, gafodd ei chyhoeddi gyntaf yn 1990 gydag ail argraffiad yn 2006, wedi'i disgrifio fel y cofnod mwyaf cynhwysfawr o hanes y genedl.

Cyhoeddodd nifer o gyfrolau ac roedd yn un o olygyddion Gwyddoniadur Cymru.

Yn frodor o Dreorci yng Nghwm Rhondda fe symudodd gyda'i deulu i bentre Bwlch Llan yng Ngheredigion ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ac roedd llawer yn ei alw'n John Bwlch Llan.

Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt, roedd yn darlithio ym mhrifysgolion Abertawe - ac Aberystwyth ble oedd yn Warden Neuadd Pantycelyn am 18 mlynedd.

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones y byddai John Davies yn cael ei gofio nid yn unig fel un o haneswyr mwyaf ei genhedlaeth, ond fel un o Gymry mwyaf dylanwadol ein hoes.

"Go brin fod 'na unrhyw un wedi gwneud mwy i sicrhau ein bod ni fel pobl yn ymwybodol o'n hanes. Petai hynny ddim yn ddigon, roedd o hefyd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ddylanwad mawr ar genedlaethau o arweinwyr cymunedol a chenedlaethol Cymreig trwy ei waith fel Warden Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth.

"Yn enwog trwy'r wlad am ei ffraethineb a'i wybodaeth ddihysbydd, roedd o'n un o gymeriadau mawr ein bywyd cenedlaethol. Bydd colled fawr iawn ar ei ôl."

Merêd

Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, bu farw'r Dr Meredydd Evans yn 95 oed.

Roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru, fel perfformiwr, arbenigwr ar ganu gwerin ac ymgyrchydd iaith. Roedd yn bennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru am ddegawd yn ystod yr 1960au ac 1970au.

Yn enedigol o Lanegryn, Sir Feirionnydd, cafodd ei fagu yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, yn un o 11 o blant.

Fe astudiodd Athroniaeth ym Mhrifysgol Bangor, lle cafodd radd dosbarth cyntaf. Yno fe ffurfiodd Driawd y Coleg gyda Robin Williams a Cledwyn Jones i ddifyrru eu cyd fyfyrwyr.

Wrth ddarlithio yn yr Unol Daleithiau yn y 1950au y cwrddodd â Phyllis ei wraig. Yn 1954 cyhoeddodd Merêd ei record gyntaf fel canwr gwerin ar label Folkways yn America. Cyhoeddodd y ddau sawl cyfrol a chasgliadau o ganeuon gwerin ar y cyd.

Wedi treulio cyfnod yng Ngholeg Harlech ac mewn prifysgolion yn America, fe gafodd ei benodi'n bennaeth adloniant ysgafn y BBC ganol y '60au.

Image copyright S4c

Wrth glywed am ei farwolaeth, dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones:

"Merêd a dweud y gwir oedd seren gyntaf y byd canu pop Cymraeg, gyda'i lais melfedaidd, ei ganeuon gafaelgar a'i bersonoliaeth ddeniadol; ond bu'n gymaint mwy na hynny. Yn gynhyrchydd a phennaeth adran adloniant BBC Cymru, roedd yn teimlo'n angerddol yr angen am raglenni poblogaidd fyddai'n apelio at genedl gyfan, ac yn gwybod sut i fynd ati i'w creu nhw.

"Yn ymgyrchydd di-flino, rhoddodd ysbrydoliaeth ac arweiniad yn nyddiau'r frwydr i sefydlu S4C, a bu'n feirniad unplyg ond cwrtais o ymdrechion y darlledwyr Cymraeg i gyrraedd y nôd wedi hynny. Gyda'i waith gorchestol, law yn llaw â Phyllis, ym maes canu gwerin, yn athronydd uchel ei barch ac athro disglair, roedd yn wir yn ffigwr unigryw yn hanes diweddar ein cenedl."

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru:

"Fe fydd Dr Meredydd Evans yn cael ei gofio fel cenedlaetholwr, ymgyrchydd iaith ac arbenigwr ar ganu gwerin.

"Ond mae'n bwysig cofio am ei gyfraniad enfawr ym myd adloniant hefyd. Fel cynhyrchydd a phennaeth adran adloniant BBC Cymru roedd yn gyfrifol am greu clasuron sydd yn aros yn y cof, cyfresi fel Ryan a Ronnie a Fo a Fe.

"Roedd yn feistr ar greu rhaglenni comedi ac adloniant gwreiddiol oedd yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd o bob oed."

Harri Pritchard Jones

Dim ond ychydig wythnosau yn ddiweddarach, bu farw'r awdur, y beirniad a'r seiciatrydd, Dr Harri Pritchard Jones yn 81 oed ar ddechrau mis Mawrth.

Roedd yn llenor, yn seiciatrydd blaenllaw, ac un o ddilynwyr selocaf y ffydd Gatholig - a'i farn yn cael ei holi'n aml am y pynciau hynny.

Ym Môn y cafodd Harri Pritchard Jones ei fagu er bod gwreiddiau'r teulu'n ddwfn yn nhir Eryri.

Chwarelwyr oedd ei deidiau ond gyrfa fel meddyg oedd yn galw Harri Pritchard Jones a hynny ar anogaeth ei dad.

Yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn y cafodd ei hyfforddi, a dyma'r cyfnod y daeth i gysylltiad ag un arall o'r dylanwadau mawr - y ffydd Gatholig.

Ar ôl dychwelyd i Gymru fe barhaodd y gwaith meddygol yn Ysbyty Meddwl Hensol ger Caerdydd.

Roedd ei nofelau yn gyfoes, gan gynnwys Ysglyfaeth, nofel am helyntion Gogledd Iwerddon yn yr wythdegau. Fe gafodd ei ddawn ei chydnabod wrth iddo ennill cadeiryddiaeth corff y llenorion, Yr Academi.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Edwin Regan, Esgob Emeritws Wrecsam ac Offeiriad y Plwyf ym Mlaenau Ffestiniog: "Roedd yn ffrind mawr i mi ers y 60au, ac roedd yn drist iawn i glywed y newyddion am ei farwolaeth.

"Roedd yn fraint fawr i'w adnabod, ac roedd mor falch o fod yn Gatholig, ac yn dweud ei farn heb ofni beth oedd pobl yn ei feddwl amdano.

"Roedd yn hapus i hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn yr Eglwys, ac mae'n mynd i fod yn golled fawr i ni i gyd."

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: "Doedd 'na ddim ochr i Harri yn y modd roedd e'n trafod pethau.

"Roedd yn fodlon dweud pethau beirniadol hyd yn oed am y Pab ar wahanol adegau, oedd yn dangos ei fod yn Gatholig ond yn rhyddfrydig, Cymreig a rhyngwladol."

Sian Pari Huws

Ychydig wythnosau yn ôl, bu farw'r ddarlledwraig Sian Pari Huws yn 55 oed.

Yn wreiddiol o Gilgwri ar Lannau Mersi fe gafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg y Merched, Cilgwri.

Y tro cyntaf iddi fyw yng Nghymru oedd pan ddaeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth cyn symud wedyn i weithio i'r BBC yng Nghaerdydd fel newyddiadurwraig ar ddechrau'r 1980au.

Roedd yr un mor gyffyrddus yn darlledu yn Gymraeg a Saesneg - treuliodd gyfnod yn byw yng Nghaerdydd yn cyflwyno Good Morning Wales ar BBC Radio Wales cyn dychwelyd i'r gogledd i gyflwyno Good Evening Wales o Fangor.

Bu Sian yn cyflwyno'r Post Prynhawn ar Radio Cymru yn achlysurol, ynghyd â nifer o raglenni eraill.

Roedd yn llais cyfarwydd ar Radio 3 yn cyflwyno cyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau cerddorol eraill i Radio Cymru, a rhaglen uchafbwyntiau'r Eisteddfod Genedlaethol ar Radio Wales.

Yn ferch i gapten llong, roedd y môr yn ei gwaed ac roedd yn hwylwraig o fri.

Fe gyflwynodd gyfres ar S4C - 'Hanes Cymru a'r Môr" - yn dilyn hanes morwrol y wlad.

Yn dilyn marwolaeth Sian, dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies:

"Roedd angerdd Sian am Gymru, a'i phobl, a'i diwylliant cyfoethog yn disgleirio trwy ei gwaith. Roedd yn newyddiadurwr nad oedd ofn codi gwrychyn, ond yn gefnogwr brwd i'n celfyddydau ac i'n iaith.

"Byddwn yn colli ei chynhesrwydd, ei hiwmor a'i chwilfrydedd diddiwedd. Mae ein cofion a'n cydymdeimlad dwysaf wrth gwrs gyda'i theulu heddiw."

Straeon perthnasol