M4: Lonydd wedi ail-agor

Traffic queuing on M4 after three-lorry crash Image copyright Traffic Wales

Mae pob lôn ar yr M4 i'r gorllewin wedi ail-agor wedi oedi yn gynharach yn y bore.

Roedd dwy lôn ar gau wedi gwrthdrawiad rhwng tair lori.

Er bod pob lôn bellach yn glir, mae Heddlu De Cymru'n dweud y bydd hi'n cymryd amser i'r ciwiau glirio.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 06:45 rhwng cyffordd 30 a chyffordd 32.

Roedd lori wedi syrthio ar ei hochr ar y ffordd. Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mi lwyddodd y gyrwyr ddod allan o'u cerbydau. Maen nhw wedi cael eu hasesu gan barafeddygon.