Codi cofeb i'r Armeniaid yn Nhyddewi

cofeb Image copyright John Torosyan
Image caption Y gofeb i Hil-laddiad yr Armeniaid yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Ddydd Sadwrn yn Nhyddewi cafodd cofeb ei dadorchuddio i nodi 'hil-laddiad' yr Armeniaid.

Mae'n 100 mlynedd ers digwyddiadau 1915-16, pan fu cannoedd o filoedd o Armeniaid farw ar ôl cael eu gyrru o ddwyrain Anatolia, yn Nhwrci, i anialwch Syria.

Dydi Twrci na'r DU ddim yn cydnabod fod y digwyddiadau gyfystyr â 'hil-laddiad.'

Ond mi wnaeth yr Eglwys yng Nghymru hynny yn 2013.

"Roedd penderfyniad yr Eglwys yng Nghymru i gydnabod 24 Ebrill fel Diwrnod yr Hil-laddiad Armenaidd yn hynod bwysig," meddai John Torosyan, aelod o'r gymuned Armenaidd yn ne Cymru, wrth BBC Cymru Fyw.

"Dyma'r rhan gyntaf o'r DU i gydnabod rhywbeth sy'n ddadleuol i weddill gwledydd Prydain," meddai.

Image copyright AFP
Image caption Penglogau ym mhentref Armenaidd Sheyxalan yn 1915 (Llun: Amgueddfa-Sefydliad yr Hil-laddiad Armenaidd)

Rhodd gan y gymuned Armenaidd i'r eglwys yw'r gofeb newydd ar dir Eglwys Gadeiriol Tyddewi, i ddiolch am eu cydnabyddiaeth.

Fe gafodd ei dylunio gan yr artist Mariam Torosyan, merch-yng-nghyfraith John, ac mae'n portreadu'r Forwyn Fair, y Baban Iesu ac Etchmiadzin, cadeirlan bwysicaf Cristnogaeth Armenaidd.

"Tyddewi yw mam eglwys Cymru, mewn ffordd, ac Etchmiadzin yw mam eglwys yr Armeniaid," meddai Canon Patrick Thomas, Canghellor Eglwys Gadeiriol Tyddewi a bugail anrhydeddus i'r Armeniaid yng Nghymru.

"'Dyn ni'n gobeithio bydd y ddelwedd ar y gofeb yn creu cyswllt rhwng y ddau le."

Ffoi

Yn ôl Mr Torosyan, fe gafodd aelodau o ddwy ochr ei deulu eu crogi yn nigwyddiadau 1915-16.

Mae'n dweud mai mwy o achosion o erlid ysgogodd ei deulu i adael Istanbul un noson yn 1960 mewn car gyda theulu arall.

Ar eu taith, fe gawson nhw eu harestio am dresbasu ar wersyll milwrol Rwsiaidd ym Mwlgaria, ond fe gyrhaeddon nhw ben eu taith - y DU.

Yr unig eiddo, ar wahân i arian, ddaeth y teulu efo nhw oedd carped, sydd bellach yng nghartref Mr Torosyan yng Nghaerdydd.

Image copyright John Torosyan
Image caption Y carped deithiodd gyda theulu John Torosyan o Dwrci i Gymru

Dydi Annie Torosyan, gwraig John, ddim yn credu bod lle i'r Armeniaid yn Nhwrci bellach.

"Hyd yn oed heddiw, maen nhw'n dileu ein hanes ni," meddai. "Ond dyna'n mamwlad ni. Mi oedden ni yno."

I'w gŵr, mae hynny'n tanlinellu'r pwysigrwydd o gael cydnabyddiaeth a chofeb yn Nhyddewi.

"Ble ydyn ni'n gallu mynd i alaru? Allwn ni ddim codi cofeb yn Nhwrci - fuasai'r gofeb ddim yno'n hir," meddai.

"Mae Tyddewi wedi bod yma ers y flwyddyn 600. Mae'n bwysig fod y gofeb yn ddiogel ac y bydd yma am amser hir."

Image caption John ac Annie Torosyan

Nid hon yw'r gofeb gyntaf i'r Armeniaid yng Nghymru.

Yn 2007, fe gafodd cofeb ddadleuol ei chodi yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe gafodd ei fandaleiddio.

Ddydd Sadwrn, fe fuodd Canon Patrick Thomas a'r Esgob Havakim Manoukian o'r Eglwys Armenaidd yn arwain gweddïau mewn Cymraeg, Saesneg ac Armeneg.

Mae Mr Torosyan yn gobeithio bydd effaith y gofeb newydd yn bellgyrhaeddol.

"Mae Tyddewi'n ganolfan addysgol, ac os yw un neu ddau ymwelydd yn dysgu am hanes yr Armeniaid drwy weld y gofeb, mae hynny'n beth da.

"Mae'n bwysig fod pobl yn gwybod amdanon ni, fel ein bod yn gallu ennyn y cydymdeimlad sy'n angenrheidiol ar gyfer gael cydnabyddiaeth ehangach o'r hil-laddiad.

"Ac mae'r gydnabyddiaeth honno'n hollbwysig."

Straeon perthnasol