Dyn yn y ddalfa wedi gwarchae Wrecsam

digwyddiad Wrecsam

Mae dyn 26 oed yn y ddalfa wedi'r gwarchae yn Wrecsam barodd bron i bump awr.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ar stryd Coed Aben ym Mharc Caia am 13:05 oherwydd ffrwgwd a chafodd yr ardal ei chau.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd, roedd dyn yn gwrthod gadael y tŷ. Doedd dim lle i gredu fod unrhyw un arall yn yr adeilad.

Cafodd y tŷ ei amgylchynu gan yr heddlu a bu'n rhaid i rai pobl adael eu cartrefi.

Mae'r heddlu'n gofyn i bobl fod yn amyneddgar wrth i'r ymgyrch ddod i ben yn yr ardal.

Hefyd maen nhw'n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101.