Cymorth i ffoaduriaid sy'n cyrraedd Cymru

Image caption Mae'r bobl mae Ruth yn eu helpu 'wedi goroesi teithiau ac amgylchiadau difrifol'

Mae Ruth Gwilym Rasool yn gweithio i Asylum Help sy'n rhoi cymorth i geiswyr lloches sy'n cyrraedd Cymru.

Wrth i 2015 dynnu at ei therfyn bu Ruth yn edrych yn ôl ar flwyddyn lle "deffrodd Ewrop i'r creisis ffoaduriad mwya ers diwedd yr Ail Ryfel Byd."

Image caption Mae'r ddelwedd o ffoaduriaid ar fadau achub wedi bod yn rhai amlwg gydol y flwyddyn

Wrth feddwl yn ôl dros 2015, delwedd fydd yn dod i feddwl llawer ohonon ni yw delweddau y ffoaduriaid - un ai yn ceisio croesi'r môr, neu'r ddelwedd fythgofiadwy o gorff Alan Kurd a ddarganfuwyd ar draeth yng Ngwlad Groeg, y ddelwedd o gannoedd a channoedd o bobl yn cerdded o ffin Hwngari i lawr at Croatia, neu y rhai sydd yn ceisio goroesi y "jwngwl" yn Calais.

Yn 2015 deffrodd Ewrop i'r creisis ffoaduriad mwya' ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Yr wyf yn gweithio yn un o chwech o ganolfannau "llety cyntaf" sy'n cael eu darparu gan y Swyddfa Gartref i geiswyr lloches sydd newydd wneud cais am loches.

Mae'r pobl yr ydan ni'n gweithio gyda nhw yn cael lloches dros dro tra ydan ni'n cwblhau cais am loches fwy parhaol, tra ydan ni'n cwblhau cais am lety mwy parhaol - sydd eto yn ddarpariaeth gan y Swyddfa Gartref - wrth iddyn hw wneud penderfyniad am eu hachos.

Image caption Mae rhai ffoaduriaid wedi llwyddo i gyrraedd gwersyll 'y jwngwl' yn Calais

Yn aml, mae'r bobl rydan ni yn eu gweld wedi goroesi teithiau ac amgylchiadau erchyll. Yn aml, mae'n nhw'n cyrraedd heb ddim ond y dillad y mae'n nhw'n eu gwisgo. Mae rhai mewn sioc neu'n diodde' o PTSD.

Mae rhai yn frwd ac yn awchu am y rhyddid y maen nhw wedi gobeithio amdano. Maen nhw i gyd yn ceisio dygymod efo'r hyn y maen nhw wedi ei adael yn eu gwledydd ac wedyn ar eu taith - gall hyn fod yn y foment neu am flynyddoedd i ddod yn yr isymwybod.

Mae llawer o waith deall ar y sustem "ceisio lloches" ac oherwydd hynny rydan ni'n egluro a rhoi cyfle i bobl ddod yn ôl i ofyn cwestiynau tra'u bod nhw yn y lloches gyntaf.

Ddim yn hawdd

Tydi hi ddim yn sustem hawdd - gan fod mewnfudo wedi bod yn bwnc politicaidd ers tro mae'r deddfau'n llymhau.

Mae'r bobl yr ydw i wedi cael y fraint o'u cyfarfod dros y 15 mlynedd diwethaf yn aml heb Saesneg, yn dygymod hefo byw mewn diwylliant hollol wahanol, heb deulu neu rwydwaith adnabyddus. Maen nhw'n hiraethu am eu teuluoedd a'u gwlad ac hefyd yn byw gydag ansicrwydd penderfyniad y Swyddfa Gartref a gawn nhw aros neu eu hanfon yn ôl.

Maen nhw hefyd yn ceisio ymdopi hefo sustem gynnal a chartrefu'r Swyddfa Gartref.

Serch pob her mae'r bobl dw i wedi eu cyfarfod yn anhygoel o gryf, clen, urddasol, doniol, weithiau'n flin, weithiau'n drist neu'n flin, yn hynod o ddiddorol ac mae 'mywyd i gymaint cyfoethocach o'r herwydd.

Ysbryd yn rhoi gobaith

Heblaw am y bobl dw i wedi eu cyfarfod yng Nghymru, y ddelwedd sydd yn aros yn fy meddwl i wrth edrych nôl ar 2015 yw honno o Nujeen Mustafa, y ferch benderfynol o Kobane deithiodd dros y moroedd ac ar draws Ewrop yn ei chadair olwyn gyda'i chwaer.

Fe ddywedodd Nujeen: "Mae o werth o, gan fod y rhan fwya' o bobl yn chwilio am ddiogelwch, am heddwch.

"Efallai y gwelwch chi galedi ar y ffordd ond, yn y pen draw, bydd eich bywyd mewn trefn, eich plant yn mynd i'r ysgol, fe ddewch chi o hyd i swydd, fe gewch chi'ch bywyd eich hun yn ei ôl."

Mae ei hysbryd benderfynol hi yn rhoi gobaith.

Image copyright AP
Image caption Mae nifer o deuluoedd wedi eu gwahanu wrth i bobl geisio sicrhau fod eu plant yn ddiogel