Mewn byd llawn sŵn, oes llai o leisiau nag erioed?

Sian Morgan Lloyd

Ar ddiwedd ei thymor cynta' fel darlithydd y Coleg Cymraeg yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, mae Sian Morgan Lloyd yn rhannu ei hargraffiadau am y newidiadau mawr sydd wedi bod ym maes newyddiadura, ac yn galw am ddiogelu newyddiaduraeth safonol, heriol a gwreiddiol yng Nghymru.

Mewn byd llawn sŵn, oes llai o leisiau nag erioed?

Y munud mae'n larwm ffôn yn sgrechian yn y bore (hynny yw, os nad ydw i wedi cael fy neffro gan news alerts yn barod!) mae'r byd ar flaen fy mysedd, fel petai.

Mae gen i gryn ddewis o apps ac o fewn pum munud fydda' i wedi sganio prif benawdau'r bore. Nesa', cipolwg ar Twitter, ble mae pob cwmni, asiantaeth a gohebydd newyddion yn trydar o bob cornel o'r byd.

Ar y ffordd i'r gwaith mae pori gwefannau yn ddigon hawdd ar ffôn neu dabled, ac mae blîp y news alerts neu Twitter yn tynnu sylw pan fo newyddion mawr yn torri.

Yn ystod y dydd bydda' i hefyd yn cadw golwg ar nifer o wefannau ar fy nghyfrifiadur. A hyd yma, gyfeillion, dydw i ddim wedi talu dime goch y delyn i lowcio'r holl wybodaeth.

Rydyn ni'n byw mewn oes lle mae'n haws nag erioed i ddilyn y newyddion. Bellach mae bob yn ail stori sy'n ymddangos ar fy nhudalen Facebook wedi ei phostio gan ffynhonnell newyddion, neu wedi ei rhannu gan rywun sy'n ffrind.

Ond os ydw i'n dibynnu ar Facebook a Twitter am fy 'ffics', ydw i felly yn gadael i'r rhai 'dw i wedi dewis eu dilyn neu fod yn ffrindiau ar-lein, i osod yr agenda newyddion?

Mae crwydro'r we yn darllen, 'hoffi', neu rannu straeon yn wahanol iawn i ddarllen papur dyddiol - ble mae golygyddion wedi gosod y straeon yn eu trefn. Ac mae'r un peth yn wir am fwletinau radio neu deledu.

Image caption Mae sawl ap newyddion ar gael erbyn hyn, gan gynnwys ap Cymru Fyw, gafodd ei lansio fis Awst 2014

Ergyd i newyddiadura gwreiddiol

Mae adolygiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig yn nodi bod cylchrediad y Western Mail wedi gostwng 53% ers i'r felin drafod annibynnol gynnal archwiliad tebyg yn 2008. Maen nhw hefyd yn nodi bod nifer y newyddiadurwyr sy'n cael eu cyflogi wedi gostwng o bron i 700 yn 1999, i ddim ond 108 yn 2013.

Er nad yw'r gwasanaeth newyddion ar radio a theledu wedi dioddef toriadau mor gïaidd, maen nhw hefyd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn eu cyllidebau. Mae'n anochel felly bod newyddiaduraeth wreiddiol, gynhwysfawr, ar draws ein cymunedau wedi dioddef - yn enwedig ym myd print.

Yn fy marn i, mae gormod o 'newyddion' yn cael ei greu o ddatganiadau i'r wasg erbyn hyn. 'Dw i'n poeni bod y pwysau ar gyllidebau ac adnoddau yn golygu bod dim digon o newyddiadurwyr yn gadael eu swyddfeydd i chwilio am straeon, i siarad gyda'r cyhoedd ac i gynrychioli ein cymunedau.

Faint o newyddiadurwyr sydd â'r amser bellach i gadw llygad barcud ar gyrff cyhoeddus? I fod yn ein llysoedd? I graffu ar waith llywodraethau? I ymchwilio i straeon gwreiddiol?

'Dw i'n gwybod yn iawn ar ôl degawd o weithio ar raglen Y Byd ar Bedwar be mae'n golygu i ymchwilio yn drylwyr i gefndir stori, i geisio profi twyll heb amheuaeth, i gasglu tystiolaeth er mwyn ffilmio'n gudd, ac i fynnu atebion gan y rhai sy' ddim eisiau ateb.

A dwi'n gwybod faint o amser ac adnoddau mae'r math yna o newyddiaduraeth yn ei gymryd, a'r ymdrech a'r agwedd sydd ei angen gan newyddiadurwyr, felly.

Image copyright PA
Image caption Mae llawer o straeon newyddion yn cael eu torri ar wefan Twitter

'Llwyfan i bobl gyffredin'

Mae'r ystadegau yn dangos darlun digon digalon. Ond tra bod y diwydiant yn wynebu heriau enfawr, mae angen cofio hefyd nad ydi pethau'n ddu i gyd. Yn yr oes ddigidol rhaid cofio fod y dechnoleg newydd wedi rhoi llwyfan i bobl gyffredin i rannu gwybodaeth, dadlau, hysbysebu a chreu cynnwys.

A heb gyfrwng fel Twitter fydde rhai lleisiau byth yn cael eu clywed, fel y rhai sy'n defnyddio'r we i gyfathrebu gyda'r byd o Raqqa yn Syria, i ddefnyddio enghraifft gwbl ddifrifol.

Ond heblaw am yr ardaloedd gweddol brin lle mae'n anodd iawn, os nad amhosib, i newyddiadurwyr eu cyrraedd, mae'n ddyletswydd i'r newyddiadurwr o hyd i ymdrechu i fod yng nghanol y stori.

Braint unrhyw newyddiadurwr yw cael herio a chwestiynu ar ran y cyhoedd. Mae'n allweddol bod newyddiadurwyr yn cyflwyno barn pobl go iawn, ac nid elite neu rethreg corfforaethau mawrion mwy dylanwadol.

'Dw i'n derbyn bod arferion y cyhoedd wedi newid am byth a dydw i ddim yn rhagweld byd lle mae pobl yn dychwelyd i ddarllen papurau dyddiol, na gwylio teledu fel yr oedden nhw ers talwm. 'Dw i'n croesawu ffyniant y byd digidol, a'r cyfleodd a'r heriau sydd ynghlwm.

Ond - ac mae hwnnw yn OND mawr - mae gwir angen gwarchod, neu efallai achub, newyddiaduraeth safonol, heriol a gwreiddiol yng Nghymru. Mae gwasg gref, hyderus, a graenus yn hanfodol ar gyfer unrhyw ddemocratiaeth iach ac mae yna risg gwirioneddol o golli'n llais ynghanol yr holl sŵn.

Image caption Mae llawer yn cael eu newyddion o wefannau cymdeithasol erbyn hyn