Cymru a'r Gofod

Siwt Ofod Gymreig Herfin Jones Image copyright Dan Burn-Forti
Image caption Hefin Jones: yn rhoi "cyd-destun cosmig i ddiwylliant, sgiliau a thraddodiadau Cymru"

Gyda chynlluniau ar droed i greu planetariwm mwyaf Prydain yn y Rhondda mae arddangosfa yn Abertawe yn dangos fod Cymru eisoes wedi cyfrannu ei siâr at astudiaethau'r gofod.

Mae arddangosfa Cymru yn y Gofod yn Amgueddfa'r Glannau yn dangos fod diddordeb y Cymry yn y planedau yn mynd nôl yn bell.

Un o'r Cymry sy'n cael sylw yn yr arddangosfa ydy Hugh Percy Wilkins o Gaerfyrddin a wnaeth helpu NASA i lanio ar y lleuad yn 1969 gyda'i fapiau manwl o wyneb y lleuad.

Wrth baratoi at deithiau Apollo i'r gofod yn y 1960au fe brynodd NASA sawl copi o fap Hugh Wilkins wedi iddo fod yn astudio'r lleuad gyda thelesgôp o'i ardd gefn ers blynyddoedd.

'Sail i deithiau Apollo'

A heblaw am y cyfreithiwr William Grove o Abertawe a ddyfeisiodd y gell danwydd gyntaf efallai na fyddai'r Apollo 11 wedi gallu gadael y ddaear o gwbl heb sôn am lanio ar y lle iawn ar y lleuad.

Image copyright Cymdeithas Seryddol Crayford Manor House
Image caption Hugh Wilkins a Williams Grove

Dyfeisiodd William Grove y gell danwydd hydrogen oedd yn cynhyrchu trydan gyda foltedd uchel yn 1842.

"Gan mlynedd yn ddiweddarach," meddai'r arddangosfa, "roedd dyfais Grove yn sail i'r celloedd tanwydd gafod eu defnyddio gan NASA ar gyfer teithiau orbit Gemini Earth ac Apollo yn glanio ar y Lleuad.

Image copyright llanddaniel.co.uk
Image caption Daeth Tecwyn Roberts nôl i'w hen ysgol yn Llanddaniel in 1974

"Yn fwy diweddar, mae'r dechnoleg hon wedi'i defnyddio i bweru'r Wennol Ofod a lloerennau."

Roedd Cymro, Tecwyn Roberts o Landdaniel-fab, Ynys Môn, yn un o swyddogion NASA oedd yn gweithio'n agos ar deithiau Apollo yn y chwedegau gyda Buzz Aldrin, Neil Armstrong ac eraill. Fe gafodd fedal am wasanaeth neilltuol gan NASA.

Llun cynharaf?

Image copyright John Dillwyn-Llewellyn
Image caption Un o'r lluniau cynharaf o'r Lleuad

Yn 1857 fe gynhyrchodd y Cymro John Dillwyn Llewellyn a'i ferch Thereza un o'r lluniau cynharaf o'r Lleuad wedi iddo godi arsyllfa ar dir ei stâd ym Mhenlle'r-gaer i'w ferch, oedd yn rhannu ei ddiddordeb mewn seryddiaeth.

Felly pan gerddodd Neil Armstrong ar y Lleuad am y tro cyntaf yn 1969 roedd hi'n naid fawr i ddynoliaeth ond hefyd yn gam bach yn hanes cyfraniad Cymru at y ras i'r gofod.

Y Ddraig yn hedfan

Image copyright Amgueddfa'r Glannau
Image caption Mae'r Ddraig Goch aeth i'r gofod yn 1994 i'w gweld yn yr arddangosfa

Ers hynny mae'r Ddraig Goch a'r iaith Gymraeg wedi bod i'r gofod sawl gwaith wrth i ofodwyr a gweithwyr NASA o dras Cymreig fel Dafydd Williams o Ganada, George Abbey o Seattle a Joe Tanner o Illinois fynd â'u balchder yn hanes eu teulu gyda nhw i'r gofod.

Joe Tanner, mab i ferch o Dregaron yng Ngheredigion, a chefnder i'r bardd Gwyneth Lewis, oedd y cyntaf i fynd â'r Ddraig Goch i'r gofod yn 1994 yn ystod un o'i bedair taith mewn gwennol ofod.

Yn 1995 daeth Tanner ar ymweliad â Llanddewi Brefi lle roedd ei dad-cu yn brifathro a rhoddodd y faner i Amgueddfa Cymru.

Image copyright Elin Jones
Image caption Joe Tanner yn Llanddewi Brefi yn 1995

Yr iaith yn y gofod

Ond mae'r iaith Gymraeg ei hun wedi mynd ymhellach na dim un o'r rhain.

Mae hi'n un o'r 55 o ieithoedd sydd ar fwrdd y Voyager 1 a 2, y chwilwyr gofod gafodd eu lawnsio i archwilio'r gofod yn 1977 ac sy'n dal i anfon gwybodaeth nôl.

Cafodd yr iaith ei dewis ar gyfer y Cofnod Aur a gasglwyd gan y seryddwr a'r astroffisegydd Carl Sagan i gynrychioli bywyd ar y ddaear, rhag ofn y bydd Voyager yn dod i gysylltiad â bodau eraill yn y gofod rhyw ddydd.

Mae'r Cofnod Aur yn cynnwys lluniau a synau'r Ddaear a chyfarwyddiadau ar sut i ddarganfod y Ddaear.

Image copyright Asiantaeth Ofod Ewrop
Image caption Beagle 2

Mae'r cyfarchiad Cymraeg - yr unig iaith Geltaidd yn y casgliad - yn dweud "Iechyd da i chwi yn awr, ac yn oesoedd."

Mae Voyager erbyn hyn wedi gadael cysawd yr haul a mynd yn bellach nag unrhyw loeren o'r blaen.

Oes 'na fywyd ar Mawrth?

Hefyd i'w gweld yn yr arddangosfa mae model maint llawn o'r Chwiliedydd Gofod Beagle 2, gafodd ei ddylunio'n rhannol ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd bellach yn cyfrannu at brosiect ExoMars 2018 i blaned Mawrth.

Mae Cymru eto felly'n cyfrannu at y prosiect diweddaraf i lanio ar blaned arall, a NASA wedi cyhoeddi adnodd Cymraeg ar y we ar gyfer eu lluniau hyfryd o'r blaned goch.

Safleoedd hynafol

Ond mae Andrew Deathe, Swyddog Arddangosfeydd yr Amgueddfa, yn pwysleisio fod yr arddangosfa yn dangos nad peth newydd yw ein perthynas gydag archwilio'r gofod - mae henebion fel Côr y Cewri yn dangos fod y sêr a'r planedau wedi bod yn rhan ganolog o fywyd ein hynafiaid hefyd.

Image copyright Rhys Thomas
Image caption Mae Bryn Cellli Ddu wedi ei adeiladu i wynebu llwybr yr haul yn gwawrio

"Bydd sylw i themâu diddorol fel Astroarchaeoleg - astudiaeth o sut y bu'n hynafiaid yn adeiladu cofebau o amgylch safleoedd arwyddocaol gwawrio a machlud yr haul, y lleuad a'r sêr," meddai Andrew Deathe.

"Ceir nifer o'r safleoedd pwysig hyn yng Nghymru, gan gynnwys Bryn Celli Ddu yn Ynys Môn. Codwyd y gofeb, ger tref Llanddaniel-fab, oddeutu 5,000 o flynyddoedd yn ôl."

Cymru cosmig

Ond ei hoff beth yn yr arddangosfa, meddai Andrew Deathe, yw'r siwt ofod o wlân Cymreig a'r clocsiau gofod wedi eu gwneud gan y dylunydd Hefin Jones sydd wedi sefydlu prosiect Ymgyrch Gofod Cymru i "ddod o hyd i gyd-destun cosmig i ddiwylliant, sgiliau a thraddodiadau Cymru, gyda'r nod o ddangos bod gan Gymru'r gallu i archwilio'r gofod."

Image copyright Amgueddfa'r Glannau
Image caption Mae siwt ofod Hefin Jones wedi ei gwneud o frethyn Cymreig

"Mae ei brosiect rhyfedd a gogleisiol yn gwneud i rywun feddwl ac yn archwilio diwylliant Cymru drwy gyfrwng teithiau ymchwil i'r gofod ac yn dangos nad oes raid i bobeth sy'n ymwneud â'r gofod ymwneud ag ymchwil wyddonol, rhaid dod ag elfen o ddynoliaeth iddo hefyd," esbonia Andrew Deathe.

Gyda Tim Peake, y seithfed astronot Prydeinig, wedi cychwyn ar ei gyfnod yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol yn ddiweddar bydd cyfle i gyfarfod astronot cyntaf Prydain, Helen Sharman, yn yr amgueddfa ar 20 Ionawr, lle bydd yn rhannu ei phrofiadau o fyw a gweithio yn y gofod.

A chyda Strategaeth Ofod Cymru wedi ei lawnsio fis Gorffennaf 2015, pwy a ŵyr na fydd hi'n hir cyn y gwelwn ni astronot o Gymru yn yr entrychion?

Gwyliwch y gofod ...


Darllenwch rhagor am brosiect Cymraeg NASA, HiRISE Welsh

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.