Uno cynghorau wedi 'tynnu gormod o sylw,' yn ôl adroddiad

Huw
Image caption Mae rhai cynghorau yn dymuno 'cyn lleied o newid ag sydd angen,' medd Huw Vaughan Thomas

Mae trafod uno cynghorau wedi tynnu sylw oddi wrth yr angen i gymryd penderfyniadau anodd, tymor hir am wasanaethau cyhoeddus, yn ôl y dyn sy'n craffu ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol ei fod yn teimlo "rhwystredigaeth" fod rhai awdurdodau lleol yn dymuno gweld dim ond "cyn lleied o newid ag sydd angen".

Mewn adroddiad mae Huw Vaughan Thomas yn awgrymu nad yw'r newid radical angenrheidiol i wasanaethau cyhoeddus wedi digwydd, er gwaetha' pum mlynedd o gyni ariannol.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw torri'r nifer o awdurdodau lleol o 22 i wyth neu naw.

Ond hyd yma mae'r gwrthbleidiau a rhai arweinwyr cyngor Llafur wedi ymateb yn chwyrn.

'Amharu ar allu'

"Mae tipyn o drafod wedi bod ynglŷn â natur gwasanaethau ond mae'r cwestiwn ynglŷn â strwythur llywodraeth leol wedi tynnu'r sylw," meddai Mr Thomas.

"Dyw hi ddim o reidrwydd yn bwysig i bobl pa gyngor sy'n bodoli ond yn hytrach pa wasanaethau sy'n cael eu cyflenwi.

"Mae wedi amharu ar allu rhai cynghorau i feddwl tu hwnt i'r pedair neu pum mlynedd nesaf. Mae gofyn meddwl llawer ymhellach ymlaen."

Ychwanegodd fod cynghorau yn Lloegr yn "cyflwyno newidiadau mawr" a bod angen i awdurdodau yng Nghymru wneud yr un peth.

£1.2bn

Mae toriadau yn San Steffan wedi golygu bod y gwasanaethau datganoledig wedi colli £1.2bn mewn termau real (7% o gwymp) ers 2010.

Y disgwyl yw y bydd hynny'n codi i £1.8bn (11% o gwymp) erbyn 2019-20. Yn y cyfamser, mae'r pwysau ar wasanaethau wedi cynyddu wrth i'r boblogaeth heneiddio.

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau'n craffu ar wasanaethau cyhoeddus, gyda thystiolaeth o welliannau yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys iechyd cyhoeddus a gwasanaethau canser. Bu gwelliant hefyd mewn canlyniadau addysg.

Ond mae amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys ar gyfer triniaeth canser, triniaeth brys a llawdriniaethau, wedi gwaethygu. Mae tlodi'n parhau yn uchel, ac mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi cynyddu.

'Gwelliant'

Dywedodd Mr Thomas: "Nid oes yr un rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi osgoi'r pwysau ariannol sydd wedi deillio o gyni economaidd.

"Felly mae'n gadarnhaol fy mod yn gallu nodi, er gwaethaf y pwysau hwn, fy mod yn gweld gwelliant mewn rhai agweddau ar lesiant, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol. Ond rwyf hefyd yn pryderu bod arwyddion o bwysau mewn rhai meysydd allweddol.

"Gyda thoriadau pellach ar y gorwel, mae'n galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru wedi pennu cyfeiriad cliriach a'i bod yn rhoi pwyslais penodol ar gynnwys y cyhoedd yn fwy yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.

"Ond mae llawer o rwystrau i'w goresgyn o hyd cyn y gellir cyflawni'r nod o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn gyfan gwbl er mwyn sicrhau eu bod yn gynaliadwy."

Tair her fwya'

Dywedodd 69 allan o'r 135 wnaeth ymateb o'r sector lywodraeth leol fod newid strwythurol ymysg y tair her fwya' oedd yn eu hwynebu.

Dywedodd Darren Millar, yr AC Ceidwadol sy'n cadeirio'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym Mae Caerdydd: "Cafwyd cynnydd cadarnhaol mewn rhai meysydd.

"Fodd bynnag, mae'n siomedig bod yr ansicrwydd ynghylch ffurf llywodraeth leol yn y dyfodol wedi atal cynghorau yng Nghymru rhag rhoi newidiadau sylweddol ar waith, ac mae'n siomedig hefyd nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach wedi symud yn gynt i drawsnewid y modd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu."