Cwest: Ergyd i'r pen wedi lladd dyn

John Sabine a Leigh Ann Sabine Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption John Sabine a Leigh Ann Sabine

Mae cwest wedi clywed bod dyn y cafwyd hyd i'w gorff mewn gardd wedi marw o ergyd i'w ben.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff John Sabine, a fyddai wedi bod yn 85 oed, yn y tir y tu ôl i fflatiau yn Nhrem y Cwm, Beddau, Rhondda Cynon Taf ar 24 Tachwedd.

Does neb yn gwybod pryd y bu farw, ond doedd neb wedi gweld Mr Sabine ers 1997.

Dywedodd y Ditectif Prif-Arolygydd Gareth Morgan o Heddlu'r De wrth y cwest yn Aberdâr bod ymchwiliad i lofruddiaeth yn cael ei gynnal i'r digwyddiad, a bod gwraig Mr Sabine, Leigh Anne Sabine yn cael ei hamau o'i ladd.

Bu farw Mrs Sabine o ganser ar 30 Hydref eleni.

Fe glywodd y cwest dystiolaeth gan y patholegydd Richard Jones a ddywedodd mai achos y farwolaeth oedd ergyd i'r pen.

Cafodd y cwest ei ohirio gan y crwner Andrew Barkley, ac fe fydd gwrandawiad arall yn cael ei gynnal ar 10 Mawrth, 2016.

Straeon perthnasol