Agor cwest i farwolaeth Gwyddel ar yr M4 ger Casnewydd

gwrthdrawiad Image copyright Media Wales

Mae cwest i farwolaeth Gwyddel ar ôl gwrthdrawiad ar yr M4 ger Casnewydd wedi cael ei agor a'i ohirio.

Bu farw Andre Murphy, 56 oed o Sir Wexford, yn y fan a'r lle ger Cyffordd 28 yn gynnar fore Llun.

Y gred ydi bod Mr Murphy ar ei ffordd i ddosbarthu ceffylau a'i fod yn trwsio olwyn cerbyd anifeiliaid tua 04:10 GMT.

Dangosodd post mortem ei fod wedi cael anafiadau i'w ben, ei frest a'i fola.

Fe gafodd y cwest ei agor a'i ohirio am dri mis gan y crwner David Bowen yn Llys y Crwner Casnewydd gan fod ymholiadau'r heddlu yn parhau.

Mae dyn 45 oed o Ferthyr Tudful wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.