Cwpan Her Ewrop: Montpellier 23-22 Gleision

Alex Cuthbert scores Blues' try Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd cais hwyr gan Paul Willemse yn ddigon i Montpellier gipio'r pwyntiau yn erbyn y Gleision yng Nghwpan Her Ewrop nos Iau.

Alex Cuthbert sgoriodd gyntaf i'r Gleision, oedd ar y blaen ar yr egwyl er i Julien Malzieu sgorio i'r tîm cartref yn yr hanner cyntaf.

Daeth 11 o bwyntiau o droed Rhys Patchell, ac fe wnaeth y Gleision amddiffyn yn gryf yn yr ail hanner i fod ar y blaen gyda munud i fynd.

Ond sgoriodd Willemse gyda symudiad olaf y gêm, a llwyddodd Demetri Catrakilis i gicio'r trosiad i sicrhau'r fuddugoliaeth i Montpellier.

Er y golled, cafodd y Gleision bwynt bonws ac mae gobaith iddyn nhw symud ymlaen yn y gystadleuaeth.