Angen 'newid y drefn' o ariannu myfyrwyr medd adolygiad

Myfyrwyr

Dyw cadw'r drefn bresenol o ariannu myfyrwyr yng Nghymru "ddim yn opsiwn", yn ôl y mwyafrif o dystiolaeth sydd wedi ei gasglu gan adolygiad o'r drefn honno.

Mae grantiau o hyd at £5,190 ar gael i dalu ffioedd dysgu, sydd fel arfer yn £9000.

Dywedodd prifysgolion Cymru y gallai'r grantiau - sy'n costio £229m yn 2014/15 - gael eu defnyddio'n well drwy helpu myfyrwyr difreintiedig.

Roedd yr Athro Syr Ian Diamond o'r farn bod gan fyfyrwyr Cymreig llai o ddyledion na myfyrwyr o Loegr, ond roedd "diffyg consensws am y ffordd ymlaen."

Wrth grynhoi'r dystiolaeth yr oedd ei adolygiad o'r drefn wedi ei dderbyn, dywedodd Syr Ian bod "ystod o awgrymiadau" am newidiadau wedi eu gwneud ond "bod y mwyafrif o ymatebion yn cydnabod nad oes ateb hawdd ac y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd".

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis adolygiad Diamond ym mis Tachwedd 2013, gan ddweud ei bod yn iawn i ystyried y sefyllfa mewn cyfnod o "newid sydyn ac anrhagweladwy" i brifysgolion, ond ni fydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan fis Medi 2016.

Wrth ymateb i adroddiad Syr Ian Diamond ddydd Gwener, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Angela Burns AC: "Mae polisi'r blaid Lafur yn golygu bod arian cyhoeddus sylweddol o Gymru yn cael ei gasglu ac yna ei ollwng ger drysau prifysgolion yn Lloegr.

"Ar yr un pryd mae ein sector addysg uwch yn parhau i ymlafnio yn ei flaen.

"Mae'n annheg - ac o anfantais i Gymru - ac mae'n rhaid iddo stopio."


Dadansoddiad Tomos Livingstone, Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru:

Dyma'r rhan hawdd, a dweud y gwir. Fel dywed Syr Ian Diamond, mae bron pawb yn gytûn nad yw'r sefyllfa sydd ohoni yn gynaliadwy.

Mae'r egwyddor ar hyn o bryd yn ddigon syml - rhydd hynt i fyfyrwyr astudio ble a mynno, ac fe fydd Llywodraeth Cymru'n rhannu rhan helaeth o'r gost. Mae myfyriwr Cymreig yn Lloegr yn talu £3,500 o'i ffi dysgu, gyda Llywodraeth Cymru'n talu'r gweddill.

Syml, a phoblogaidd, wrth reswm, ymysg myfyrwyr. Ond mae'n ddrud hefyd - mae un amcangyfrif yn rhoi'r gost dros y pum mlynedd nesaf cyn uched â £3.6bn. Ac mae tua £90m y flwyddyn yn croesi'r ffin i Loegr - digon hawdd deall pam nad yw sefydliadau Cymru'n anhapus ynglŷn â hynny.

Nesa'r rhan anodd - pa system fyddai'n well? Fe fyddai trosglwyddo'r gost i'r myfyrwyr yn debycach i'r drefn yn Lloegr, ond yn debyg o arwain at brotestiadau gan fyfyrwyr. Cadw'r tâl i'r sawl sy'n dewis aros yng Nghymru yn unig? Rhy blwyfol?

Dyw hi ddim yn hawdd i'r sawl sy'n gorfod darparu maniffesto ar gyfer fis Mai (er i'r Ceidwadwyr eisoes addo cefni ar y lwfans yn gyfan gwbwl). A pheidied neb droi at Syr Ian am yr ateb - daw ei adroddiad terfynol, ynghyd â'i argymhellion, ar ôl i'r pleidleisiau gael eu cyfrif.