Y flwyddyn wleidyddol ar y gorwel

blwch pleidleisio

Ar ddechrau haf 2016 mae yna gystadleuaeth ar y gweill sy'n tynnu dwr i'r dannedd.

Fe fydd na ddrama a chyffro, gobeithio.

Mae'r dadansoddi ynglŷn â'r timau eisoes wedi dechre'n frwd.

Cyn yr ornest rhaid gweithio'n galed, ysbrydoli'r cefnogwyr a dyfalbarhau tan y chwiban ola.

Mai'r pumed yw'r diwrnod mawr - diwrnod etholiad y Cynulliad.

Image caption Roger Scully yn dadansoddi`r arolygon diweddaraf i`r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru.

Nod Plaid Lafur Carwyn Jones yw dal ei gafael ar rym ym Mae Caerdydd, er bod yr arolygon barn yn awgrymu y bydd hi'n anodd ennill dros dri deg o'r chwe deg sedd a felly sicrhau mwyafrfif clir.

Mae Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn dweud bod yr arolygon diweddara yn darogan y bydd Llafur yn colli ambell sedd, ond yn parhau fel y blaid fwyaf ym Mae Caerdydd.

Yn ol yr Athro Scully , mae'n debygol iawn y bydd gan UKIP bresenoldeb yn y Cynulliad newydd am y tro cyntaf.

"Mae'r argolygon barn yn awgrymu rhywbeth rhwng pedwar sedd i efallai hyd yn oed naw sedd yn y Cynulliad ac yn ennill seddi ym mhob rhanbarth yng Nghymru."

Fe allai presenoldeb aelodau UKIP ei gwneud "hyd yn oed yn anoddach i ddychmygu llywodraeth heb y blaid Lafur yn y Cynulliad", meddai, oherwydd y byddai "mwy neu lai yn yn amhosibl" ffurfio clymblaid fyddai'n cyfuno Plaid Cymru, y Ceidwadwyr ac UKIP.

Wrth i etholwyr Cymru ethol Aelodau'r Cynulliad, fe fydd Albanwyr yn ethol llywodraeth yng Nghaeredin ac yn Llundain mae yna etholiad ar gyfer maer newydd.

Bydd goblygiadau'r etholiadau yna ar gyfer arweinydd y blaid Lafur Brydeinig Jeremy Corbyn yn cael eu dadansoddi'n ddwys.

Mai'r pumed fydd ei brawf mawr etholiadol cyntaf a fe allai'r canlyniadau un a`i sefydlogi ei arweinyddiaeth neu ei wanhau yn enbyd.

Yn yr Alban, a fydd yr SNP yn atgyfnerthu ei goruchafiaeth yng ngwleidyddiaeth y wlad honno a sut fydd Llafur yn perfformio wedi'r chwalfa yn etholiad cyffredinol 2015?

Ond mae'n bosib bydd na bleidlais fawr arall yn 2016.

Refferendwm ar y gorwel

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi addo refferendwm ar ddyfodol Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd cyn diwedd dwy fil ag un deg saith ond mae yna ddarogan ei fod am alw'r bleidlais cyn gynted a phosib.

Mae'n bwriadu cytuno bargen newydd i Brydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd cyn cynnal y refferendwm.

Fe fydd trafodaethau gyda aelodau eraill yr Undeb Ewropeaidd yn parhau ym misoedd cynta 2016 a fe allai refferendwm ddigwydd mor gynnar a mis Mehefin.

Mae hynny'n her meddai Dafydd ab Iago sy'n newyddiadurwr ym Mrwsel.

"Mae'n realistig ar un amod", meddai, " os ydy arweinwyr Ewropeaidd yn dod i gytundeb ym mis Chwefror".

"Does dim lot o amser, mae lot o bynciau eraill ar yr agenda ym Mrwsel felly mae'n anodd, ond mae dal yn bosib".

Fe fydd yna flas o'r dadlau i ddod ym mis Ionawr pan fydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ac Arweinydd UKIP Nigel Farage yn mynd ben ben mewn dadl arbennig ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

Os oes yna refferendwm ym mis Mehefin, fe allai ddigwydd ar yr un pryd a digwyddiad mawr Ewropeaidd arall - pencampwriaeth beldroed Ewro 2016.

A fydd hynny'n ystyriaeth i Downing Street wrth benderfynu pryd i gynnal y bleidlais?

O bosib, wrth edrych nol ar hanes etholiadol, meddai'r Athro Roger Scully.

Roedd y cyn Brif Weinidog Harold Wilson yn mynnu ei fod wedi colli etholiad cyffredinol 1970 oherwydd i Loegr golli i'r Almaen yng nghwpan y byd rhai dyddiau ynghynt.

"Bob tro mae Prif Weinidog yn ystyried pryd ddylen ni'n cael etholiad neu pryd ddylen ni gael refferendwm rhaid iddo fe ystyried cymaint o bethau efallai fydd yn digwydd yn y dyfodol", meddai'r Athro Scully.

Pwy a wyr, efallai bod yna rhywun yn Downing Street wrthi nawr yn ystyried effaith posib buddugoliaeth i Gymru dros Loegr yn Ewro 2016 ar bleidleisio ar yr Undeb Ewropeaidd.