Chwaraewr rygbi dadleuol yn ymuno â'r Gleision

Salesi Ma'afu Image copyright Getty Images

Mae Gleision Caerdydd wedi arwyddo cyn brop Awstralia, Salesi Ma'afu wedi iddo gael ei ryddhau gan glwb Toulon yn Ffrainc.

Cytunodd Ma'afu, 32 oed, y byddai'n gadael y pencampwyr Ewropeaidd ar ôl ei gael yn euog o ymosod ar berson a chael dedfryd o garchar am bedwar mis wedi ei ohirio, ym mis Tachwedd.

Mewn datganiad, dywedodd y Gleision fod Ma'afu yn ymuno "ar unwaith - yn amodol ar y broses fisa arferol".

"Rydym wrth ein bodd o fod wedi arwyddo Salesi, ac rydym yn ei groesawu i'r Gleision," meddai'r prif hyfforddwr, Danny Wilson.

"Mae'n brop pwerus. Mae ganddo bedigrî gwych yn y gêm." Gwnaeth ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf dros Awstralia yn erbyn Fiji yn 2007, fe aeth ymlaen i ennill 14 o gapiau ac fe chwaraeodd yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2011.

Fe ymunodd Ma'afu â Northampton yn 2013 gan gynorthwyo'r clwb i ennill pencampwriaeth Uwchgynghrair Lloegr a Chwpan Her Ewrop yn 2014.

Ond methodd â chwarae yn rownd derfynol y Cwpan Her, ar ôl iddo gael ei wahardd am ddyrnu chwaraewr Leicester Tigers, Tom Youngs.

Ym mis Chwefror eleni, fe gafodd Ma'afu hefyd ei wahardd am bythefnos ar ôl iddo daro Tom Court o glwb Gwyddelod Llundain, cyn ymuno â Toulon ym mis Mehefin.

Ar hyn o bryd, mae'r Gleision yn 10fed yn nhabl y Pro12 wedi ennill dim ond 14 pwynt yn eu naw gêm gyntaf.