Newid i'r drefn o ddysgu'r Gymraeg fel ail-iaith?

Arholiad Image copyright PA

Mae angen edrych ar y system o ddysgu'r Gymraeg fel ail-iaith mewn ysgolion, meddai Carwyn Jones.

Mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith, mae'r prif weinidog yn dweud bod y drefn bresennol yn creu "gwahaniaeth artiffisial".

Ar hyn o bryd, mae disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn sefyll arholiad Cymraeg gwahanol a haws na'r rheiny sy'n astudio Cymraeg fel iaith gyntaf.

Yn ôl y Gymdeithas maen nhw'n credu fod Mr Jones am ddileu system bresennol o ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith.

Mae'r Gymdeithas yn dyfynnu llythyr gan y prif weinidog , gan ddweud bod y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, yn cytuno ag o.

Hyblygrwydd

"Rydym o'r farn bod y cysyniad "Cymraeg fel ail iaith" yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o'r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol," meddai Mr Jones yn y llythyr.

"Dylem edrych ar bawb ....mewn ffordd bositif, ac annog pobl sy'n defnyddio'r Gymraeg ar unrhyw lefel i ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg, heb osod labeli artiffisial."

Ychwanegodd: "Rhaid i'n system addysg hyrwyddo uchelgais ar gyfer y Gymraeg, a chynnig digon o hyblygrwydd i fodloni gwahanol ofynion gan wahanol rannau o gymdeithas.

"Wrth inni gamu ymlaen, rhaid i'r polisi symud i ffwrdd o'r cysyniad o "ail iaith" tuag at ystyriaeth integredig a chydlynol o'r Gymraeg fel iaith wirioneddol fyw. "

Mae Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, yn credu fod hynny yn golygu newid mawr.

"Mae'n newyddion cadarnhaol a chalonogol iawn," meddai. "Dylai pob un disgybl gadael ysgol gyda'r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy'r Gymraeg.

"Un ffordd o wneud hynny yw dileu'r llwybr eilradd, ail iaith, sy'n bodoli ar hyn o bryd.

"Yn y pendraw, rydym yn credu bod angen symud at system, fel sydd gyda nhw yng Ngwlad y Basg, lle mae ysgolion naill ai'n dysgu'r holl gwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg neu ran sylweddol ohono fe."

Gwnaed cais i Lywodraeth Cymru am ymateb.