Ailagor yr M4 ger Abertawe ar ôl i drelar droi drosodd

traffig

Mae'r M4 wedi ailagor ger Abertawe ar ôl i drelar droi drosodd gan adael anifeiliaid yn rhydd ar y ffordd, er bod tagfeydd o hyd i'r ddau gyfeiriad.

Yn ôl Traffig Cymru fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ger cyffordd 45 Ynysforgan a chyffordd 46 Llangyfelach.

Chafodd neb anafiadau difrifol.