Paris 2015: Cymraes yn edrych yn ôl

Kate Rousseau Image copyright Arall
Image caption Mae Kate Rousseau yn gweithio fel newyddiadurwraig ym Mharis

Fe wawriodd 2015 yn Ffrainc fel unrhyw flwyddyn arall, gyda phryd o fwyd reveillon nos Galan, a theuluoedd estynedig yn mwynhau wystrys, foie gras, champagne a gwin.

Y nos Fercher honno, wrth i bobl Ffrainc fwynhau un o'u hoff draddodiadau, fydden nhw byth wedi dychmygu o fewn wythnos y byddai un arall o'u hoff draddodiadau dan fygythiad.

Wrth i'r newyddion dorri ar ddydd Mercher 7 Ionawr bod 'na ddigwyddiad arall wedi bod yn swyddfeydd papur newydd Charlie Hebdo, doedd neb wedi synnu.

Roedd bygythiadau yn sgil eu portread o Islam a'r Proffwyd Mohammed yn gyffredin. Ond yn fuan fe sylweddolon ni bod hwn yn wahanol; aeth si ar led yn gyflym bod y golygydd, Charb, a nifer o gartwnwyr enwoca'r wlad wedi eu saethu`n farw.

Doedd y ffaith nad oedd neb wedi'u synnu ddim yn golygu nad oedd 'na sioc ac anghrediniaeth bod yr egwyddor o ryddid barn, sydd mor gryf yn Ffrainc, wedi ei thramgwyddo yn y fath fodd.

Image copyright Reuters
Image caption Canhwyllau ger caffi Le Carillon, safle un o'r ymosodiadau ar 13 Tachwedd

Targedu rhyddid

Ddeuddydd yn ddiweddarach, rhyddid crefyddol oedd y targed - pedwar o bobl yn marw a 15 wedi eu cymryd yn wystlon mewn archfarchnad Iddewig ar gyrion Paris. Mae'r Ffrances Carole Prat yn byw gerllaw, yn Vincennes.

"Wedi Charlie Hebdo, roeddech chi'n teimlo'n flin, gan iddyn nhw ladd cymaint o bobl. Ond mwy felly gan iddyn nhw dargedu gwerthoedd pobl - gwerthoedd y Ffrancwyr. Roedd 'na lot o siarad ar y pryd, lot o drafod am ein gwerthoedd. Ond wnaethon ni ddim teimlo'r pryd hwnnw mai ni oedd y targed. Roedd ganddyn nhw darged penodol y diwrnod hwnnw."

Fe newidiodd hynny 10 mis yn ddiweddarach. Ar 13 Tachwedd, cafodd 130 o bobl eu lladd mewn cyfres o ymosodiadau ym Mharis. Y tro hwn roedd y terfysgwyr wedi targedu'r rhai oedd allan yn mwynhau nos Wener. Roedd gŵr Carole, Ceri Davies, o Gaerdydd, mewn bar yn y ddinas wrth i'r ymosodiwyr danio Kalachnikovs a bomiau gerllaw.

"Ro'n ni`n gwylio Cymru yn erbyn Yr Iseldiroedd yng nghanol Paris, tua dau cilometr i ffwrdd, felly heb weld na chlywed dim. Ond roedd yr ymosodiadau ym mis Tachwedd yn wahanol i'r rhai ar Charlie Hebdo. Roedd y rhai a fu farw yn bobl gyffredin, heb wneud dim i fod yn darged, fel beirniadu'r proffwyd Mohammed. Roedd pobl yn ymwybodol y "gallai fo wedi bod yn fi" ar y teras pêl-droed neu yn y Bataclan - doedden nhw ddim yn y café y noson honno, ond noson arall fe allen nhw fod wedi bod yno."

Image copyright Lara Catrin
Image caption Gwylnos ar Place de République yn troi yn rali

Herfeiddiol

Wrth i'r bariau lle cafodd pobl eu lladd fis Tachwedd ddechrau ailagor, mae pobl Paris yn ôl ar y teras mewn ymgais i fod yn herfeiddiol. Ond mae'r galon yn drom - rhyw deimlad nad oedd yna o'r blaen. Yn ôl Tomos Roberts, yn wreiddiol o Fangor ond sydd bellach yn byw ym Mharis, mae'r bobl leol yn nerfus, ond yn benderfynol o fyw bywyd mor normal â phosib.

"Mi gariwn ni ymlaen fel 'da ni wedi gwneud o'r blaen. Dwi'n cymryd mwy o ofal os 'dw i allan gyda fy mab ac yn mynd â'r car yn lle'r metro os 'da ni'n mynd allan fel teulu. Ond os ydw i ar fy mhen fy hun, dw i heb newid y ffordd dw i'n byw. Mae bywyd yn mynd yn ei flaen."

Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, felly, mae Dinas y Golau yn dal i ymgorffori ei henw gyda'r holl addurniadau Nadolig. Ond mae Paris ar ddiwedd 2015 yn weledol wahanol i'r hyn oedd hi flwyddyn yn ôl.

Mae milwyr arfog ar ein strydoedd. Mae swyddogion diogelwch yn gofyn am weld y tu mewn i'n bagiau ar stepen drws y siopau a'r swyddfeydd. Mae cymudwyr yn fwy gwyliadwrus nag arfer o 'becynnau amheus'.

Mae prifddinas Ffrainc wedi talu pris uchel eleni, ond dyw'r trigolion - gan gynnwys Ceri, Carole a Tomos - ddim am adael i'r terfysgwyr ennill. Mae'n nhw'n gwrthod byw eu bywyd mewn ofn, gan wybod mai Paris, a'i thraddodiadau fydd yn gorchfygu.

Image copyright EPA

Straeon perthnasol