Ymosodiad ar heddwas: Dyn yn y llys

Ffordd y Mela, Pwllheli Image copyright Google
Image caption Digwyddodd yr ymosodiad ar Ffordd y Mela, Pwllheli

Mae dyn 25 oed o Wynedd wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol i blismon ym Mhwllheli.

Mae Jordan Moran o Fairbourne hefyd yn wynebu cyhuddiad o achosi difrod troseddol i gerbyd heddlu ac o fod yn feddw ac afreolus yn Yr Eifl ar 19 Rhagfyr.

Fe wnaeth y plismon a ddioddefodd yr ymosodiad dorri ei goes.

Doedd dim cais am fechnïaeth ac fe gafodd Mr Moran ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 4 Ionawr.

Honnir iddo anafu PC Daniel Owen, sydd dal yn yr ysbyty, yn ôl yr heddlu.

Efallai y bydd yn rhaid i'r swyddog gael llawdriniaeth ar ei goes ar ôl yr ymosodiad, a ddigwyddodd ar Ffordd y Mela, Pwllheli, brynhawn Sadwrn.

Roedd yr heddlu wedi bod yn ymateb i ddigwyddiad ar y stryd pan ddigwyddodd yr ymosodiad ar ôl 16.30.

Fe gafodd yr heddwas ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.