Rhyddhau dogfennau cudd Thatcher am fformiwla ariannu'r DU

margaret thatcher

Mae dogfennau cabinet o'r 1980au sydd newydd gael eu rhyddhau yn datgelu bod y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, wedi galw am adolygiad cudd o sut oedd gwledydd y Deyrnas Unedig yn cael eu hariannu.

Roedd honiadau bod gwariant yn rhy uchel yn yr Alban, tra bod gweinidogion blaenllaw o'r farn bod y gyfran o arian yn "annheg i Loegr a Chymru".

Roedd yna gynllun ehangach gan y llywodraeth Geidwadol 30 mlynedd yn ôl i dorri gwariant cyhoeddus ond cafodd Mrs Thatcher ei rhybuddio o natur "sensitif" yr adolygiad.

Canolbwynt y gwaith oedd y 'Fformiwla Barnett' sy'n cyfrifo sut mae arian cyhoeddus yn cael ei rannu i wledydd y Deyrnas Unedig.

Mewn nodyn cafodd ei ysgrifennu i'r prif weinidog ar y pryd gan swyddog o'r Trysorlys, Syr Brian Unwin, fe awgrymodd nad oedd y drefn yn deg i bawb.

Dywedodd bod y fformiwla - sydd wedi ei seilio ar boblogaeth yn hytrach na'r angen - yn "gor-ddarparu ar gyfer yr Alban; ac yn gor-ddarparu ychydig i Ogledd Iwerddon ond dim i Gymru."

Cyfarfod i drafod

Mae'r fformiwla wedi cael ei henwi ar ôl y gŵr a greodd y system, y cyn-weinidog Llafur, Joel Barnett.

Ym 1986, fe gadeiriodd Mrs Thatcher gyfarfod a fu'n trafod y system ariannu.

Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, fe ysgrifennodd ei hysgrifennydd preifat, Nigel Wicks: "Galwodd y prif weinidog am adolygiad preifat brys o'r ffigyrau gwariant cyhoeddus yng Nghymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr."

Ar y pryd, gwariant y pen yng ngwledydd y DU oedd: £1,632 yn Lloegr, £1,861 yng Nghymru, £2,058 yn yr Alban, a £2,461 yng Ngogledd Iwerddon.

Image caption Roedd cadw Fformiwla Barnett yn un o addewidion David Cameron i'r Alban yn ystod y refferendwm yn 2014

Mewn sylw yn ei llawysgrifen ei hun ar y fformiwla, fe ddywedodd y prif weinidog: "Dyma ddarpariaeth bloc - awtomatig a heb graffu".

Er gwaethaf i Margaret Thatcher alw am adolygiad, mae'r fformiwla yn parhau hyd at heddiw.

Fe wnaeth David Cameron addo y byddai'n parhau yn ystod ymgyrch refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014.

'Llawr cyllido' newydd

Er mwyn ceisio sicrhau na fyddai gwariant yng Nghymru yn crebachu'n ormodol o gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, fe gyhoeddodd y canghellor George Osborne 'lawr' cyllido newydd i Gymru yn Natganiad yr Hydref eleni.

Mae hynny'n golygu na fydd gwariant cyhoeddus yng Nghymru yn cwympo'n is na 115% o'r hyn sydd yn cael ei wario yn Lloegr.

Cafodd y cyhoeddiad groeso llugoer gan brif weinidog Cymru, Carwyn Jones, wrth iddo fynnu nad oedd y 'llawr' yn mynd i'r afael â phroblemau hanesyddol Fformiwla Barnett.

"Byddai sicrwydd yn cael ei roi drwy gael gwared â fformiwla Barnett, sydd erbyn hyn yn warthus," meddai Mr Jones.

"Dyw e ddim yn gwarantu faint o arian fydd ar gael yn y dyfodol - os yw'r arian i Loegr yn mynd lawr bydd arian i Gymru'n mynd lawr hefyd."

Tri degawd ers y galw am adolygiad o'r fformiwla, mae'r dadlau yn parhau.