Rhybudd: 'Dau ddosbarth' o gynghorau

Traffic sign, child writing, road being dug up, and bins waiting to be emptied

Mae cynghorau yn y canolbarth yn ofni y gallai dau ddosbarth o siroedd ddatblygu yng Nghymru os yw ardaloedd gwledig yn parhau i gael toriadau mwy i'w cyllidebau nag ardaloedd trefol.

Eleni, am yr ail flwyddyn yn olynol, y toriadau i setliad cynghorau Powys a Cheredigion yw'r mwyaf yng Nghymru.

Nawr, mae'r ddwy sir yn galw am adolygu'r fformiwla sy'n penderfynu lefel cyllid y cynghorau.

Heb newid maen nhw'n ofni y gallai bwlch agor rhwng y siroedd gwledig a'r rhai mewn ardaloedd trefol.

Pan gafodd setliadau'r cynghorau eu cyhoeddi bythefnos yn ôl, clywodd Cyngor Powys y bydd eu cyllideb 4.1% yn is y flwyddyn nesaf. 3.4% fydd y gostyngiad yng nghyllideb Cyngor Ceredigion. Y ddwy sir yna gafodd y toriad mwyaf y llynedd hefyd.

Y toriad ar gyfartaledd drwy Gymru yw 1.4%, ond mae mwyafrif y cynghorau trefol wedi cael toriadau llai na hynny - 0.9% i Abertawe a Rhondda Cynon Taf, 0.7% i Gasnewydd a 0.1% i Gyngor Caerdydd.

'Angen newid fformiwla'

Fformiwla sy'n penderfynu maint y cyllidebau, ac mae'n ystyried nifer o wahanol ffactorau gan gynnwys hyd y ffyrdd, nifer y plant ysgol, incwm trigolion a phoblogaeth.

Mae Powys a Cheredigion yn honni nad yw'r fformiwla yn gweithio bellach - yn un peth, maen nhw'n dweud nad yw e'n rhoi digon o gydnabyddiaeth i gostau uwch darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig - y pellteroedd teithio, y boblogaeth wasgaredig a'r boblogaeth hŷn.

Mae Cyngor Powys yn galw am newid y fformiwla. Os nad yw hynny'n digwydd, mae'r Cynghorydd Wynne Jones, sy'n gyfrifol am gyllid ar Gabinet Cyngor Powys, yn dweud y gallai dau ddosbarth o gyngor ddatblygu.

"Os nad oes newid i'r fformiwla, dwi'n ofni y bydd Cymru yn troi'n genedl o ddau ddosbarth, sy'n golygu y bydd gan rai ardaloedd wasanaethau lleol digonol. Ond mewn ardaloedd eraill - yr ardaloedd gwledig - fydd na ddim llawer o wasanaethau o gwbl."

Image copyright Other
Image caption Mae arweinydd Cyngor Ceredigion yn dweud fod y sir yn wynebu toriadau o dros £8m

Mae arweinydd Cyngor Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yn cytuno y gallai rhaniad ddigwydd rhwng yr ardaloedd gwledig a threfol.

"Mae 'na berygl o hynny," meddai. "Mae'n rhaid i ni ofalu nad ydy hynny'n digwydd ond mae perygl o hynny, oherwydd y ffordd mae pethau wedi mynd - flwyddyn ar ôl blwyddyn, yr un siroedd sy'n colli allan.

"Mae'r toriad ry' ni'n cael eleni - ynghyd â chodiadau mewn costau anorfod fel chwyddiant, codiadau mewn yswiriant gwladol a phensiynau - mae'n mynd i olygu ein bod yn chwilio am doriadau o £8m i 9m ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod."

Mae'r ddau gyngor yn dweud fod cynghorau eraill yn cytuno gyda'r angen i ddiwygio'r fformiwla cyllido.

Cytundeb

Ond mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y fformiwla yn cael ei chytuno bob blwyddyn ar y cyd gyda llywodraeth leol, a'i bod hi yn cymryd yr anawsterau o weithio mewn siroedd gwledig i ystyriaeth.

Mae'r datganiad yn dweud hefyd fod y cynghorau'n cael eu cynrychioli ar grŵp sy'n ystyried newidiadau i'r fformiwla er mwyn sicrhau nad yw'n ffafrio nac yn cosbi unrhyw gyngor unigol.

Mae'r llywodraeth yn pwysleisio hefyd fod y setliad wedi bod yn well na'r hyn yr oedd y cynghorau'n ei ddisgwyl.