Achos annheg: Rhyddhau dyn o'r carchar

Colin Shearing

Bydd dyn yn cael ei ryddhau o'r carchar wedi i lys ddyfarnu nad oedd wedi cael achos teg.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod rhagfarn yn yr achos cyntaf yn Llys y Goron Abertawe yn erbyn yr awdur Colin Shearing, 70 oed, oherwydd stori fer "graffig".

Mae ei ddedfryd o dair blynedd am drosedd rywiol hanesyddol wedi cael ei dileu.

Roedd yn arfer byw yn Nhrefdraeth, Sir Benfro.