Dyn yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus

Kyle Perkins Image copyright Wales News Service
Image caption Yn euog: Kyle Perkins, 25 oed o Gwmaman ger Aberdâr

Mae dyn yn wynebu carchar am gyfnod hir wedi iddo gyfaddef achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Roedd Kyle Perkins, 25 oed o Gwmaman, wedi rhoi saith o bobl mewn fan LDV Maxus cyn gyrru'n wyllt drwy strydoedd Aberdâr.

Bu farw Sammy-Jo Davies, 19 oed, oherwydd gwrthdrawiad ar 3 Awst eleni.

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod chwech arall ag anafiadau difrifol.

Fe blediodd yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, lladrad car a gyrru heb yswiriant.

Dywedodd y Barnwr Richard Twomlow y byddai'n cael ei ddedfrydu ym mis Ionawr ac y byddai'n "ddedfryd sylweddol".