Anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad ar yr A477

Mae'r A477 ar gau Image copyright Google
Image caption Mae'r ffordd ar gau rhwng cylchfan Sanclêr a chylchfan Cilgeti

Mae pedwar person wedi'u hanafu, dau yn ddifrifol, yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin fore Mercher.

Fe wrthdarodd Mitsubishi Colt arian a fan Vauxhall Vivero gwyn ar yr A477 rhwng Sanclêr a Llanteg am tua 08:00.

Cafodd dau berson oedd yn y Mitsubishi eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr gydag anafiadau difrifol.

Cafodd dyn ei gludo i Ysbyty Treforys, Abertawe, a dynes i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Fe gafodd dau berson oedd yn y Vauxhall eu gyrru mewn ambiwlans i Ysbyty Glangwili.

Fe ddywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans fod cyfanswm o dri ambiwlans a dau ambiwlans awyr wedi eu gyrru i'r safle.

Mae'r ffordd bellach wedi ailagor.