Beirniadu swydd £75,000 i gomisiynydd heddlu y gogledd

winston

Mae comisiynydd heddlu a throsedd gogledd Cymru wedi cael ei feirniadu am hysbysebu swydd prif weithredwr sy'n talu £75,000 y flwyddyn.

Yn ôl Winston Roddick, mae'n edrych am "feddyliwr strategol" i arwain ei swyddfa.

Ond yn ôl Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, David Jones mae wedi cael ei "fombardio" gyda chwynion gan etholwyr a chwestiynodd yr angen i gael prif weithredwr.

"Os yw'n dirprwyo'r rôl yna i rywun, mae hi'n anodd gweld beth fydd ar ôl iddo wneud," meddai Mr Jones. "Mae ganddo ddirprwy gomisiynydd."

Yn ôl rheolau'r Swyddfa Gartref, mae'n rhaid i bob comisiynydd heddlu a throsedd gael prif weithredwr.