Curtis yn hapus i barhau i reoli dros dro

Alan Curtis Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Alan Curtis yn dweud ei fod yn hapus i barhau i reoli tîm pêl-droed Abertawe "am faint bynnag o amser sydd ei angen."

Mae disgwyl iddo fod yn gyfrifol am ddwy gêm yr Elyrch dros gyfnod y Nadolig, yn erbyn West Brom a Crystal Palace.

Gallai hefyd fod yn rheoli pan fyddan nhw'n chwarae oddi cartref yn Manchester United ar 2 Ionawr a'r gêm yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr yn erbyn Rhydychen.

Ychwanegodd Curtis nad oes unrhyw newyddion i'w adrodd am y gwaith o chwilio am reolwr newydd.

"Rwy'n eitha hapus i gario 'mlaen", meddai. "Gorau po gynta rydyn ni'n penodi rhywun ond y peth pwysig yw ein bod yn penodi'r dyn iawn."

Mae'r Cadeirydd Huw Jenkins eisoes wedi trafod gyda chyn-reolwr Ariannin, Marcelo Bielsa, ond rheolwr Sheffield Wednesday, Carlos Carvalhal, yw'r diweddara' i gael ei gysylltu â'r swydd.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae Carlos Carvalhal wedi arwain Sheffield Wednesday i'r seithfed safle yn y Bencampwriaeth

Bydd Abertawe'n wynebu West Brom ar Ŵyl San Steffan gyda dim ond un fuddugoliaeth yn eu 13 gêm ddiwetha yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac yn y trydydd safle o'r gwaelod.

Ond mae Curtis yn ffyddiog y gall pethau wella: "Mae'n peri gofid i ni ein bod ni yn y sefyllfa yma", meddai. "Fe ddylen ni - fwy na thebyg - fod yn hanner ucha'r tabl.

"Pan edrychwch chi ar ansawdd y chwaraewyr sydd gyda ni, mae llawer ohonyn nhw'n chwaraewyr rhyngwladol.

"Dyna pan rwy'n ffyddiog y down ni allan o'r trafferth hwn."