Ymchwiliad i dân yn Y Rhyl

Tan Rhyl

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i gorff gael ei ddarganfod mewn adeilad yn Y Rhyl tua 17:00 ddydd Mercher.

Dyw'r corff ddim wedi cael ei adnabod eto.

Cafodd pedair injan dân o'r Rhyl, Abergele, Bae Colwyn a Threffynnon eu hanfon i Vale Road yn y dre lle oedd adeilad, sy'n cynnwys gweithdy, ar dân.

Roedd yn rhaid symud trigolion o adeiladau cyfagos i Ganolfan Hamdden Y Rhyl.

Nid oes unrhyw beth i awgrymu bod y tân yn amheus, meddai'r Heddlu Gogledd Cymru sy'n gweithio gyda'r gwasanaeth tân er mwyn sefydlu beth oedd achos y tân.

Dywedodd yr heddlu nad oedd esboniad am y tân ar hyn o bryd.

Image copyright @PointFMRhyl/Twitter