Cadeirydd: 'Cytundebau deuol o fewn diwrnodau'

Gareth Davies
Image caption Gareth Davies (ar y dde) gyda Warren Gatland

Mae Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies yn obeithiol y bydd mwy'n arwyddo cytundebau deuol "o fewn diwrnodau".

Ar hyn o bryd mae Alun Wyn Jones a Rhys Webb o'r Gweilch a Chymru'n trafod eu cytundebau sy'n dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Mae awgrymiadau y bydd cefnwr Toulon Leigh Halfpenny yn dod yn ôl i Gymru a rhai, gan gynnwys y Scarlets, yn ceisio ei ddenu.

"Mae'n bosib iawn y bydd newyddion da cyn bo hir," meddai cadeirydd yr undeb wrth BBC Cymru.

"Os oes gobaith bachu rhywun fel Leigh Halfpenny neu os oes angen cadw chwaraewyr fel Alun Wyn, ry'n ni'n gorfod ystyried y mater yn ddwfn."

Maswr Y Gweilch a Chymru, Dan Biggar, oedd y cynta o Gymru i adnewyddu ei gytundeb deuol ar 4 Rhagfyr.

Yng Nghymru mae 17 o chwaraewyr â chytundebau deuol. Yr undeb sy'n ariannu 60% tra bod y rhanbarthau'n ariannu'r gweddill.