Dyn 26 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad

Mae dyn 26 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4067 yn Nhreforys, Abertawe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A4067 am 03:05 fore Sadwrn, 26 Rhagfyr.

Ni chafodd gyrrwr fan Ford Transit oedd yn rhan o'r digwyddiad unrhyw anaf, ond roedd y dyn 26 oed wedi marw ar y safle.

Mae Heddlu'r De yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ar y ffordd tua'r gogledd rhyw hanner milltir o gylchfan Wychtree i ffonio'r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.