Dyn wedi'i anafu'n ddifrifol gan gyllell

St Helen's Avenue, Swansea Image copyright Google

Mae dyn wedi cael ei arestio wedi ymosodiad ar ddyn arall gyda chyllell yn Abertawe.

Dywedodd Heddlu'r De bod dyn 24 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Treforys yn dilyn digwyddiad yn Rhodfa Santes Helen yng nghanol y ddinas am 00:15 fore Sadwrn.

Mae dyn lleol 22 oed yn y ddalfa.