Barnet 2-0 Casnewydd

Barnet 2-0 Casnewydd

Er i Gasnewydd greu nifer o gyfleoedd da ar eu taith i Barnet, roedd yr ysgrifen ar y mur pan aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 54 munud.

Fe ildiodd Mey Elito gic o'r smotyn bryd hynny, ac fe welodd gerdyn coch yn y broses. Rhwydodd John Akinde o'r smotyn, ond doedd dim byd gan y deg dyn i'w gynnig i ddod â Chasnewydd yn ôl i'r gêm.

Gyda phum munud yn weddill fe rwydodd Akinde un arall i sicrhau'r pwyntiau.