Pro12: Dreigiau Gwent 20 - 21 Gleision Caerdydd

Patchell Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd cic gosb gan Rhys Patchell ym munud olaf y gêm yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth annisgwyl i dîm Gleision Caerdydd yn erbyn Dreigiau Casnewydd Gwent ar Rodney Parade yng nghystadleuaeth y Pro12 brynhawn dydd Sul.

Roedd y Dreigiau ar y blaen yn gyfforddus o 17-6 wedi awr o chwarae, yn dilyn cais cynnar gan Ashton Hewitt, a throsiad gan Dorian Jones.

Ond daeth gobaith i'r Gleision ar ffurf cic gosb, ac fe groesodd Tom James y llinell gais funudau'n ddiweddarach i gau'r bwlch i ddau bwynt yn unig gyda phum munud yn weddill.

Methodd Patchell a sicrhau pwyntiau gyda throsiad fyddai wedi dod a'r sgor yn gyfartal. Ond gyda munud yn unig ar ôl, ni wnaeth yr un camgymeriad yr eildro wrth iddo sicrhau buddugoliaeth gyda chic gosb.