Mam yn marw: 'Ble mae olion y mab?'

Mary Lucas, y fam, a Kyle Vaughan
Image caption Mary Lucas, y fam, a Kyle Vaughan

Mae mam, sy'n marw o ganser, wedi erfyn ar y rhai laddodd ei mab i ddweud ble mae ei olion wedi eu claddu.

Diflannodd Kyle Vaughan, 24 oed o Drecelyn, Sir Caerffili, ar 30 Rhagfyr 2012.

Mae ei fam Mary Lucas wedi cael gwybod y bydd hi'n marw o fewn wythnosau.

Dywedodd ei bod hi am ei gladdu cyn ei bod yn marw.

Roedd yr heddlu wedi chwilio am y mab ac wedi arestio sawl un ond chafodd neb ei gyhuddo.

Cafodd ei gar Peugeot 306 ei adael ar yr A467 rhwng Rhisga a Cross Keys.

Roedd y car wedi bod mewn gwrthdrawiad.