Casnewydd 1-2 Plymouth

Casnewydd v Plymouth
Image caption Yn Adran 2 mae Plymouth ar y blaen o dri phwynt.

Casnewydd 1-2 Plymouth

Ar ôl 23 munud ergydiodd Scott Boden â'i droed dde yn erbyn Plymouth ar frig yr adran.

Roedd digon o gyfleoedd i Gasnewydd ar yr asgell chwith a gwaith John Sheridan y rheolwr yn talu ar ei ganfed.

Ond ar ddechrau'r ail hanner daeth Plymouth yn gyfartal ar ôl pum munud. Jake Jervis yn penio i'r gornel chwith.

Ugain munud cyn y diwedd sgoriodd Plymouth unwaith eto, Ryan Brunt yn taro â'i droed chwith o ganol y cwrt cosbi.

Yn Adran 2 mae Plymouth erbyn hyn ar y blaen o dri phwynt.