Prif leisydd Motorhead, Lemmy, wedi marw yn 70

lemmy Image copyright EPA
Image caption Roedd Lemmy'n perfformio gyda Motorhead ym Munich fis diwetha'

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Lemmy, prif leisydd Motorhead, sydd wedi marw yn 70 oed.

Bu farw'r canwr ddeuddydd ar ôl iddo gael diagnosis o ganser ar Ŵyl San Steffan, meddai'r grŵp.

Fe dreuliodd ran o'i blentyndod gyda'i deulu ar Ynys Môn ac fe gafodd y llysenw Lemmy pan oedd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

Cyn ymuno â'r grŵp Hawkwind yn 1972, roedd yn aelod o'r Jimi Hendrix Experience.

Fe aeth ymlaen i ganu i Motorhead ac fe wnaeth y grŵp gyhoeddi 20 albwm.

Dywedodd y canwr roc, Ozzy Osbourne, ei fod wedi colli "un o'i ffrindiau gorau".

Disgrifiodd Brian May o'r grŵp Queen Lemmy fel "ein ffrind unigryw".