Damwain M4: Cyhoeddi enw gyrrwr beic modur

Heddlu
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 18:00 Ddydd Nadolig

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw gyrrwr beic modur fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Casnewydd Ddydd Nadolig.

Roedd David Evans, 49 oed o Gil-y-coed, Sir Fynwy.

Digwyddodd y gwrthdrawiad nos Wener rhwng Cyffordd 24 (Coldra) a Chyffordd 25 (Caerllion), ac fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 18:00.

Bu farw yn y fan a'r lle ac mae'r heddlu wedi apelio am dystion.