Llifogydd: Ffyrdd ar gau a chartrefi heb drydan

A545
Image caption Roedd yr A545 ar gau ar Ynys Môn oherwydd tirlithriad

Mi oedd nifer o ffyrdd ar gau a bron i 14,000 o gartrefi heb drydan am gyfnod ddydd Mercher oherwydd llifogydd a choed yn cwympo.

Erbyn nos Fercher, dywedodd Western Power Distribution bod cysylltiadau trydan wedi eu trwsio.

Ar un adeg yn Sir Benfro roedd 272 o gartrefi neu fusnesau heb drydan - yn Nhyddewi, Breudeth, Dinbych y Pysgod a Phenalun - 498 yn Sir Gâr, 207 yn Rhondda Cynon Taf a 150 yn Abertawe.

Yn Llanberis ger Caernarfon roedd peirianwyr Scottish Power yn ceisio trwsio wedi i goeden gwympo a difrodi ceblau trydan.

Dywedodd yr heddlu fod tri gwrthdrawiad ar yr M4 ger Pen-y-bont am fod dŵr ar y draffordd.

Doedd dim trenau rhwng Gorsaf Ganolog Caerdydd a Phen-y-bont fore Mercher oherwydd llifogydd yn ardal Pencoed.

Tirlithriad

Roedd hen Bont Hafren ar yr M48 ger Cas-gwent ar gau rhwng C1 a C2 oherwydd gwyntoedd cryfion.

Yn ogystal roedd cyfyngiad cyflymder o 20mya ar Bont Britannia ar yr A55 rhwng Gwynedd ac Ynys Môn.

Ym Môn roedd yr A545 rhwng Biwmares a Phorthaethwy ar gau i'r ddau gyfeiriad oherwydd tirlithriad.

Roedd yr A4080 rhwng Llanfair PG a Brynsiencyn, y B5109 rhwng Pentraeth a chyffordd Llansadwrn, a Lôn Cae Mawr yn Llanddona ar gau am fod coed wedi cwympo.

Yng Ngwynedd roedd Ffordd Henbarc ar gau ym Methesda am fod ceblau trydan wedi cwympo.

Image caption Mae llifogydd yn ardal Llechryd, Ceredigion

Yn Sir Conwy roedd oedi ar yr A544 yn Llanfair Talhaearn ac ar y ffordd rhwng Bae Colwyn a Bryn-y-maen am fod coed wedi cwympo.

O ran llongau rhwng Cymru ac Iwerddon mae'r gwasanaeth sydyn rhwng Caergybi a Dulyn wedi'i chanslo ac mae pob gwasanaeth o Ddoc Penfro i Rosslare hefyd wedi'u canslo.

Ym Mhowys roedd yr A40 ar gau am gyfnod yn Nhrecastell am fod coeden wedi cwympo.

Llifogydd

Yn Sir Gâr roedd y B4300 ar gau am gyfnod yng Nghapel Dewi oherwydd llifogydd ac roedd llifogydd yn Heol Caerfyrddin, Glanyfferi.

Roedd oedi mawr ar y B4309 ym Mhontantwn oherwydd llifogydd ac un lôn ar gau oherwydd llifogydd ar yr A48 i gyfeiriad y gorllewin yn Nantycaws.

Dylai gyrwyr fod yn ofalus am fod llifogydd ar yr A482 yng Ngwmann a'r A485 rhwng Tregaron a Llambed.

Yng Ngheredigion roedd llifogydd ar yr A487 yn Aberteifi, yr A484 yn Llechryd a'r B4333 ym Mlaenannerch.

Image caption Y sefyllfa yng Nglanyfferi, Sir Gâr, amser cinio

Rhwng y B4265 a'r A48 yn Ewenni ger Pen-y-bont roedd y ffordd ar gau oherwydd llifogydd.

Ar yr M4 ger C26 i gyfeiriad y dwyrain roedd un lôn ar gau oherwydd llifogydd.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw oherwydd llifogydd mewn tai yn Llanishen yng Nghaerdydd, Y Bontfaen, a Phont-y-pŵl.

Tir gwlyb

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y byddai'r glaw yn cwympo ar dir sydd eisoes yn wlyb iawn ac y byddai hyn yn achosi i afonydd a nentydd godi'n gyflym.

Cyngor CNC yw i bobl gadw golwg ar ragolygon y tywydd cyn teithio.

Dywedodd Donna Littlechild, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd: "Rydym yn gofyn i bobl gymryd gofal ac edrych yn rheolaidd ar ein hysbysiadau a'n rhybuddion llifogydd. Caiff y rhain eu diweddaru bob 15 munud ar ein map rhybuddion llifogydd byw ar ein gwefan.

"Dylai unrhyw un sy'n gyrru fod yn arbennig o ofalus gan y bydd yna lawer o ddŵr ar y ffyrdd."

Image caption Y sefyllfa yn Little Haven yn Sir Benfro

Dywedodd Llyr Griffiths-Davies o Swyddfa Dywydd BBC Cymru mai storm Frank oedd y chweched storm i'r Swyddfa Dywydd ei henwi.

"Mae disgwyl gwyntoedd cryfion ar draws rhannau gorllewinol y wlad, o Ynys Môn a Gwynedd lawr i Sir Benfro a Sir Gâr, draw hyd Fro Morgannwg.

Image copyright Arall
Image caption Mae Afon Dyfrdwy wedi gorlifo

"Fe allai gwyntoedd hyrddio rhwng 50 a 60mya i'r mwyafrif, er mi allen nhw gyrraedd 70mya mewn rhai mannau agored.

'Glaw trwm'

"Mae rhybudd o law trwm ar draws y rhan fwyaf o'r wlad. Gallai rhyw 20-40mm o law ddisgyn i'r mwyafrif, gyda rhyw 60mm o law'n debygol ar dir uchel.

"Dylai'r gwyntoedd ostegu o ganol y bore ymlaen ac mae'r rhybudd o law trwm yn dod i ben ganol y prynhawn.

"Dylai bara'n sych i'r mwyafrif ddydd Iau a Dydd Calan ond mae disgwl rhagor o law a gwyntoedd cryfion ddydd Sadwrn."