Caerdydd 1-1 Nottingham Forest

Aron Gunnarsson scores Cardiff' equaliser Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Aron Gunnarsson ddaeth â Chaerdydd yn gyfartal

Fe wnaeth Caerdydd fethu a manteisio ar gyfle i gamu'n nes i'r safleoedd gemau ail-gyfle gan orfod bodloni â gêm gyfartal gartref yn erbyn Nottingham Forest.

Ergyd wych gan Oliver Burke roddod mantais gynnar i Forest, ond fe wnaeth Caerdydd ymateb bron yn syth.

Fe wnaeth ymdrech Aron Gunnarsson daro Tony Watt gan guro'r golgeidwad Dorus de Vries a diweddu yng nghefn y rhwyd.

Roedd Caerdydd yn rheoli am gyfnodau hir, ond heb y gallu i guro amddiffynfa'r ymwelwyr sydd nawr wedi mynd saith gêm yn ddiguro.

Parhaodd y tîm cartref i bwyso yn yr ail hanner, gyda Gunnarsson yn penio heibio'r postyn.

Pylu wnaeth pwysau Caerdydd tua'r diwedd, a daeth Forest yn agos i gipio'r pwyntiau, ond i ergyd Nelson Oliveira o agos fynd dros y bar.

Mae'r canlyniad yn golygu fod yna fwlch o chwe phwynt rhwng Caerdydd a'r timau yn y safleoedd gemau ail-gyfle.