Rhys Webb yn adnewyddu cytundeb deuol

rhys webb Image copyright Getty Images

Mewnwr y Gweilch a Chymru, Rhys Webb, yw'r chwaraewr diweddara' i ailarwyddo cytundeb deuol cenedlaethol.

Y chwaraewr 27 oed yw'r ail i wneud hynny ar ôei gyd-Walch Dan Biggar.

Mae wedi chwarae 122 o weithiau i'r rhanbarth, gan sgorio 25 cais ac ers ennill ei gap cyntaf yn 2012 mae wedi chwarae 16 o weithiau dros Gymru, gan sgorio pum cais.

Dywedodd: "Gyda sicrwydd ail gytundeb rwy'n gallu canolbwyntio ar wella o fy anaf heb orfod poeni am unrhyw beth arall, a rhoi f'ymdrechion i gyd i ddod yn ôl i'r cae yn y misoedd i ddod."

Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips: "Mae'n wych gweld chwaraewr rhyngwladol arall yn ailarwyddo cytundeb deuol ac ymrwymo'i ddyfodol i'w ranbarth ac i Gymru.

"Rydym yn cydweithio'n agos gyda'r rhanbarthau i sicrhau bod ein chwaraewyr gorau yn aros yng Nghymru, ac mae ailarwyddo Rhys yn dystiolaeth bellach fod y berthynas yma'n gweithio."