Cytundeb Alun Wyn: Trafodaethau'n parhau

Alun Wyn Jones Image copyright Getty Images

Mae trafodaethau am gytundeb deuol newydd i glo'r Gweilch Alun Wyn Jones yn parhau, meddai cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies.

Mi wnaeth Rhys Webb, sy'n chwarae i'r rhanbarth gyda Jones, arwyddo cytundeb ddydd Mercher.

"Hoffwn i feddwl y bydd Alun Wyn yn arwyddo, ond does dim penderfyniad eto," meddai Mr Davies wrth BBC Radio Wales.

"Fe arhoswn ni a disgwyl. Mae Undeb Rygbi Cymru a'r Gweilch, ynghyd ag Alun a'i gynghorwyr, mewn trafodaethau."

Mae cytundeb Jones, sy'n 30 oed, yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Ym mis Tachwedd, fe ddywedodd ei fod yn "pwyso a mesur" ei opsiynau.

Yn achos cytundebau deuol, mae Undeb Rygbi Cymru yn gyfrifol am 60% o'r gost, a'r rhanbarthau am 40%.