Pro12: Gweilch 12-7 Dreigiau Casnewydd Gwent

Dan Evans Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Y cefnwr Dan Evans ar ei ffordd i sgorio cais cyntaf y gêm i'r Gweilch

Roedd perfformiad cryf yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i'r Gweilch yn erbyn y Dreigiau yn Stadiwm Liberty ar Ddydd Calan.

Fe wnaeth Dan Evans a Hanno Dirksen sgorio cais yr un i'r tîm cartref cyn yr egwyl wrth i'r Gweilch reoli'r chwarae.

Roedd Sam Davies yn euog o fethu a throsi tair cic ddylai fod wedi creu mwy o fantais, cyn i gais Ed Jackson roi gobaith i'r Dreigiau.

Ond fe wnaeth y Gweilch amddiffyn yn gadarn i sicrhau eu pedwaredd fuddugoliaeth yn olynol yn y Pro12 a'u codi i'r chweched safle yn y tabl.