Apêl ar i ddringwyr fod yn ofalus

Grib Goch Image copyright Tim Achub Mynydd Llanberis

Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn rhybuddio dringwyr i gymryd gofal ar y mynyddoedd, wedi iddyn nhw gael eu galw allan ddwywaith dros y Calan.

Cafodd y gwasanaeth eu galw i ddau ddigwyddiad wedi i gerddwyr a dringwyr fynd i drafferthion ar y Grib Goch yn Eryri ddydd Calan.

Image copyright Tim Achub Mynydd Llanberis
Image caption Tîm Achub Mynydd Llanberis ar ddyletswydd ynghanol tywydd garw.

Cafodd dau gerddwr eu hachub wedi i un ohonyn nhw gael mân anafiadau ar ôl llithro bellter sylweddol.

Yn yr ail achos, cafodd tri cherddwr eu hachub wedi i un lithro 50m.

Mae'r tîm yn pwysleisio bod y mynyddoedd yn eithriadol o beryglus yr adeg hon o'r flwyddyn oherwydd eira, rhew a gwyntoedd cryfion.