Deddfwriaeth newydd ar y Gymraeg ym maes cynllunio

cynllunio

Mae darpariaethau sydd â'r nod o sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn y system gynllunio yn dod i rym ddydd Llun.

O dan adran 11 o'r Ddeddf Cynllunio, mae'n ofynnol i bob awdurdod cynllunio lleol - wrth baratoi neu ddiwygio'r cynllun datblygu lleol - ystyried effaith debygol y polisïau a'r safleoedd a ddyrennir ar y Gymraeg yn ei ardal.

Mae adran 31 yn egluro bod modd ystyried y Gymraeg os yw'n berthnasol i'r cais.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd datgan hynny mewn deddfwriaeth yn rhoi eglurder a sicrwydd i swyddogion cynllunio a swyddogion etholedig mewn perthynas ag ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau, os yw hynny'n briodol.

Er mwyn cyd-fynd â'r darpariaethau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o Nodyn Cyngor Technegol 20: Cynllunio a'r Gymraeg, a bydd yn ymgynghori arni am gyfnod o 3 mis.

Image caption Mae'r darpariaethau'n garreg filltir bwysig, medd Carl Sargeant, y Gweinidog Cynllunio.

Dywedodd y Gweinidog Cynllunio, Carl Sargeant AC, fod dechrau'r darpariaethau hyn yn garreg filltir bwysig a fydd yn sicrhau y bydd y Gymraeg yn cael ei hystyried yn y system gynllunio.

"Rydyn ni wedi diwygio TAN 20 er mwyn rhoi rhagor o fanylion i awdurdodau cynllunio ar sut i sicrhau bod ystyriaethau'n ymwneud â'r Gymraeg yn rhan o strategaeth a pholisïau'r Cynllun Datblygu Lleol," meddai.

"Gall awdurdodau cynllunio lleol ddiffinio yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn arbennig o sensitif neu arwyddocaol, a bydd lle i randdeiliaid gynorthwyo gyda'r gwaith hwnnw.

"Mae diweddaru'n polisïau a'n canllawiau cynllunio ar y Gymraeg yn ategu'r dyheadau a'r nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, sy'n cynnwys "Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu."

'Sail i adeiladu arno'

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at newidiadau mwy sylweddol yn y drefn cynllunio.

Dywedodd Elwyn Vaughan, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Gymunedau Cynaliadwy:

"Mae'n hen bryd i ni weld y Gymraeg yn cael ei hystyried wrth ddatblygu tai a chynllunio ar gyfer dyfodol cymunedau Cymru. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu am dros chwarter canrif am drefn gynllunio newydd sydd yn rhoi statws i'r Gymraeg."