Southport 3-2 Wrecsam

Southport Wrecsam Image copyright Rex Features

Colli oedd hanes Wrecsam i ffwrdd yn Southport, a hynny wythnos wedi i'r tîm golli yn eu herbyn nhw gartref.

Aeth Wrecsam ar y blaen wedi 18 munud gyda gôl gan Wes York, cyn i Louis Almond ddod a'r tîm cartref yn gyfartal.

Wedi hanner amser, aeth Luke Foster â Southport ar y blaen ond llwyddodd James Gray i unioni'r sgôr i 2-2.

Ond bum munud cyn y diwedd, daeth Jamal Fyfield ag Almond i lawr a sicrhaodd yr ymosodwr fuddugoliaeth i Southport gyda chic o'r smotyn.

Mae Wrecsam wedi colli tair gem o'r bron, rhediad a ddechreuodd gyda'r golled yn erbyn Southport gartref ar Ŵyl San Steffan.