Gwrthdrawiad Dinbych: Dyn yn ei 70au wedi marw

gwrthrawiad Talyllychau

Mae dyn yn ei 70au wedi ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A525 yn Ninbych.

Dywedodd yr heddlu y bu farw gyrrwr car Nissan Micra du wedi'r digwyddiad ychydig cyn 08.00 fore Llun.

Mae Ffordd Rhuthun yn Ninbych wedi ail-agor ar ôl bod ar gau yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae'r heddlu apelio am wybodaeth.