Caerau Cymru

castell
Image caption Castell Harlech

Maen nhw'n rhan annatod o dirwedd Cymru ac yn symbolau o ganrifoedd o hanes y genedl. Mewn cyfres newydd Y Castell ar S4C, mae'r awdur a'r hanesydd Jon Gower yn olrhain hanes y cestyll yng Nghymru a thu hwnt a'u dylanwad ar gymdeithas a'n diwylliant. Mae Jon yn rhannu rhai o'i argraffiadau am gaerau Cymru gyda Cymru Fyw.


Gorthrwm gwaedlyd

Mae cestyll yn britho tirlun Cymru, o Grici yn olrhain eth i Ddinbych y Pysgod, o Ruthun i Ddoc Penfro, symbolau pwerus ond hynod gymhleth sy'n cynrychioli gorthrwm, perchnogaeth, a newidiadau mewn grym a gwleidyddiaeth neu, yn wir, cymysgedd gwaedlyd o'r ddau. A phob math o gastell hefyd.

Ceir rhai ffug a ffantasiol megis conffecsiwn Castell Coch ar erchwyn ogleddol Caerdydd, sy'n ddogfen bensaernïol hardd godwyd oherwydd lafur caled yr holl weithwyr glo wnaeth lenwi coffrau ardalyddion Bute.

Mewn mannau eraill yn ein tir, ceir adfeilion hynod fyddai'n plesio'r Rhamantwyr, a'r holl deithwyr tyrrodd i Gymru fel rhan o'u Teithiau Crand o gwmpas Ewrop, ble byddent yn glafoerio, bron o weld adeiladau toredig yn cuddio dan fantell o iorwg.

Mae 'na esiampl wych, sef adfail-castell Tre-grug, dim nepell o Frynbuga, ble mae'r cwrt mewnol yn fwy na Windsor neu Caerffili hyd yn oed: yn wir dyma'r fwyaf ym Mhrydain os nad yn Ewrop, adeilad ysblennydd ar dir preifat allan o ŵydd y cyhoedd.

Mae'r rhychwant eang hwn o ddogfennau neu dystiolaethau-mewn-carreg yn cynnwys ambell berl, yn sicr o blith y cestyll bu unwaith yn berchen i'r Cymry, megis Dolbadarn yn uchelfannau Eryri a'm ffefryn innau, sef Castell y Bere.

Image copyright Barbara Fuller
Image caption Castell y Bere ar odre Cadair Idris ger Llanfihangel-y-pennant, Gwynedd

Dyma olion arbennig castell brodorol Cymreig, wedi ei ddechrau mae'n debyg gan Llywelyn ab Iorwerth neu 'Llywelyn Fawr' ar ddechrau'r 13eg ganrif.

Roedd Castell y Bere yn lleoliad anghysbell yng nghyffindir deheuol Llywelyn, ar dir uchel yng nghysgod Cadair Idris ond roedd e'n safle hollbwysig ar gyfer amddiffyniad.

Byddai'n gwarchod ardal ble porai'r gwartheg yn y dyffryn odditano, a'r anifeiliaid bryd hwnnw mor werthfawr ag y mae arian i ni'r dydd heddiw.

'Chwim fel chwyn'

Ond tra bod cestyll y Cymry yn medru cipio'r dychymyg, mewn gwirionedd adeiladau rhodresgar y Normaniaid sy'n wir meddiannu'r tirlun, ac mae'r ffaith bod cynifer ohonyn nhw yn edrych fel maen nhw newydd eu hadeiladu yn dystiolaeth o sgiliau pensaernïol digamsyniol ac o ddygnwch adeiladu'r cyfnod.

Heb os, y Normaniaid oedd concwerwyr mwyaf ffyrnig Ewrop yn yr Oesoedd Canol, oedd yn llwyddo i reoli eu concwest-diroedd gydag arf pwerus newydd - ei fersiwn nhw o'r castell.

Codwyd y rhain yn chwim, fel chwyn. Prin chwarter canrif ar ôl i Gwilym Goncwerwr a'i farchogion ar gefn ceffyl groesi'r sianel gan gipio coron Lloegr, roedd y Normaniaid wedi cwblhau adeiladu Twr Mawr Castell Cas-gwent.

Profodd y cyfuniad o filwyr symudai'n gyflym ar draws y wlad, ynghyd a chadernid y cestyll yn drech na'r Sacsoniaid ac felly bu'r Cymry hefyd yn eu tro, er bod lot mawr o ymladd yn erbyn y Normaniaid, a nifer o lwyddiannau milwrol.

Yn sydyn iawn, bron ymhobman yng nghefn gwlad Lloegr, ac, i ddilyn, yng Nghymru hefyd, gwelwyd "adeilad" newydd sef mwnt neu domen o bridd, a thwr o bren ar ei phen. Datblygwyd hwn ymhellach gyda'r beili - darn o dir i'r bobol a'u hanifeiliaid gyda ffos a chlawdd o'i gwmpas i'w hamddiffyn.

Roedd y cestyll yma'n syml iawn i'w codi, yn hawdd i'w hamddiffyn ac yn hynod, hynod lwyddiannus o ran sicrhau gafael y Normaniaid ar y tir. Felly, cyn hir, roedd y cestyll dros dro yma'n amlwg ar fap Cymru.

Roedd cannoedd o gestyll o'r fath ar hyd y wlad - ond mae bron pob un ohonyn nhw wedi diflannu erbyn heddiw, wedi toddi nôl i'r tirlun.

Image caption Castell Dolbadarn

Cadwyn o gestyll

Diolch i gastell y mwnt a'r beili, roedd y Normaniaid wedi dod i deyrnasu ar Loegr a rhannau o Gymru yn fuan iawn. A'u bwriad oedd aros yn barhaol. Dyma nhw'n dechrau felly i godi tyrau o gerrig i'r cestyll. Ar wahân i ambell eglwys doedd gan y Sacsoniaid ddim traddodiad o ddefnyddio cerrig i adeiladu. Roedd yn rhaid i'w meistri newydd ddod â'r sgiliau angenrheidiol draw o Ffrainc.

Ond roedd y Normaniaid yn barod iawn i wneud hynny, gan fod castell o faen fel y rhai ar arfordir De Lloegr, megis Rochester neu Hastings gymaint anoddach i'w gipio - patrwm ar gyfer Cymru hefyd. Codwyd dim llai na 400 castell rhwng dyfodiad y Normaniaid a Deddf Uno Harri'r VIII, gan esgor ar enw newydd ar y wlad, sef Gwlad y Cestyll.

Cyn bo hir roedd 'na gadwyn o Gestyll yn ymestyn o Gaerdydd i Gydweli ac mor bell i'r gorllewin â Phenfro. Un o'r llygad dystion i orthrwm y newydd-ddyfodiaid oedd Rhygyfarch, mab yr Esgob Silyn sy'n gysylltiedig â Llanbadarn Fawr,a ddywedodd: 'A ffieiddir di gan Dduw o genedl y Brython Och! fe'th watwerir gan haid estron. Beth a erys ond wylofain.'

A bu tipyn o wylofain a phoenydio wrth i sawdl y Norman wasgu'n dynn ar gorn gwddf y Cymry, oherwydd yn gyflym iawn fe ddaeth y Barwniaid Normanaidd i deyrnasu ar rannau helaeth o'r wlad, ac yn adeiladu cestyll ar hyd y Mers - neu Marchia Walia yn ôl ei enw Lladin. Llawer anoddach i'w choncro oedd Pura Wallia - Cymru bur.

Image caption Castell Rhaglan yn Sir Fynwy

Gwaddol Glyndŵr

Fe fyddai dwy ganrif yn pasio cyn i'r Tywysogion Cymreig llwyr ildio'r ucheldiroedd. Ac yn y cyfamser roedd y Cymry'n barod iawn i ymosod ar y Mers. Hir bu'r adeiladu wedyn, gydag ambell gastell o eiddo'r Norman yn ceisio rhagori ar adeiladau chwedlonol.

Mae'n gonfensiwn bron gennym ni'r Cymry i ddamnio cestyll Edward I, gan eu gweld nhw'n crynhoi cyfnod o chwalu gobeithion cenedl oedd prin yn gweld ei hunan felly. Does dim dwywaith bod pethau ofnadwy wedi digwydd yn enw'r Brenin, ond mae'r un yn wir am genedl-arwr fel Glyndŵr.

Ewch i weld yr hyn sy'n weddill o gastell Crughywel ar ôl i Owain ymosod a darnio'r lle a gofyn a gafodd hyn ei wenud yn heddychlon, heb golli gwaed. Yr ateb syml yw na, wrth gwrs, ond mae'n ein hatgoffa taw math o bos yw castell y cyfnod ar gyfer y rheini sy'n ymosod arnyn nhw, sy'n gofyn sut allwn ni gael mynd i mewn, tra bod y rhai sydd o fewn ei muriau'n gofyn cwestiwn arall, sef sut allwn ni wrthsefyll gwarchae ystyfnig, hir?

Mae'r atebion yn parhau hyd heddiw, yn sefyll yno, muriau sy'n adrodd straeon brwydro a dofi, gwrthryfela a gosod marc parhaol ar dirlun hanes.


Y Castell, S4C, Nos Sul, 10 Ionawr, 20:00

Cliciwch i weld rhagor o luniau cestyll Cymru

Image caption Jon Gower yng Nghastell Caernarfon