Dyn mewn cyflwr 'difrifol' wedi gwrthdrawiad

heddlu

Mae dyn mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad "difrifol" yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r A470 ger Abercynon tua 18:30 ddydd Llun.

Dywedodd yr heddlu bod dyn, 47, wedi ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Roedd y digwyddiad yn ymwneud â char Ford Fiesta arian ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.