Aberystwyth: Dynes wedi ei tharo gan gar

aber

Mae dynes mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei tharo gan gar yng Ngheredigion ddydd Llun.

Cafodd hi ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r digwyddiad ger tafarn y Starling Cloud ar ffordd Boulevard St Brieuc yn Aberystwyth tua 18:30, meddai Heddlu Dyfed Powys.

Roedd y digwyddiad yn ymwneud â char Toyota Yaris gwyn ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.