Dafydd Roberts
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ymosodiad: Dyn "yn lwcus i fod yn fyw"

5 Ionawr 2016 Diweddarwyd 21:01 GMT

Mae dyn ifanc o Ffos y Ffin yn wreiddiol wedi dweud wrth Newyddion 9 ei fod yn lwcus i fod yn fyw ar ôl iddo gael ei drywanu gan ddyn oedd yn cario machete.

Roedd Dafydd Roberts yn parcio ei gar mewn maes parcio ym Mae Caerdydd pan ymosododd Lukasz Sierzant arno. Cafodd y dyn 31 mlwydd oed o Wlad Pwyl ei ddedfrydu i bron i naw mlynedd o garchar yn dilyn y digwyddiad. Teleri Glyn Jones fu'n holi Dafydd Roberts ar ran Newyddion 9.