AS Caerdydd i ymuno â mainc flaen y Blaid Lafur

Jo Stevens

Mae AS Canol Caerdydd, Jo Stevens wedi ymuno â mainc flaen y Blaid Lafur wrth i'r arweinydd Jeremy Corbyn gwblhau ei ad-drefniant.

Mae hi wedi ei phenodi yn llefarydd cyfiawnder y blaid, gan gymryd lle'r Arglwydd Falconer, sy'n cadw ei le fel arglwydd-ganghellor yr wrthblaid.

Cafodd Ms Stevens ei hethol fel AS yn etholiad cyffredinol y llynedd.

Ddydd Mercher, fe wnaeth AS De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty adael ei rôl fel gweinidog y swyddfa dramor gyda'r blaid.

Roedd yn un o dri AS Llafur wnaeth adael mainc flaen y blaid mewn protest yn erbyn diswyddiadau gafodd eu gwneud gan Mr Corbyn yn ei ad-drefniant.